Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Ewch â’ch addysgu ar-lein

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Ewch â’ch addysgu ar-lein
Ewch â’ch addysgu ar-lein

Mae dysgu ar-lein wedi datblygu’n gyflym ac fe’i gwelir bellach ym mhob maes addysg, o ysgolion i hyfforddi sgiliau. Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu trwy gyrsiau ar-lein. Hyd yn oed pan addysgir ‘wyneb yn wyneb’ yn bennaf, mae adnoddau a rhyngweithio ar-lein wedi dod yn rhan allweddol o’r profiad dysgu.

Ond mae addysgu ar-lein yn wahanol. Os ydych yn gweithio ym maes addysg neu hyfforddiant ar unrhyw lefel, bydd angen i chi ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth newydd i wneud y penderfyniadau iawn, manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, a goresgyn heriau cyffredin.

Mae bron 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Brifysgol Agored dreialu ein cwrs cwbl ar-lein cyntaf gyda’n myfyrwyr. Rydym bellach yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran ymchwilio i addysg ar-lein a’i ddarparu. Yn y cwrs rhad ac am ddim hwn, rhannwn y wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen i addysgu’n effeithiol ar-lein.

Yn Ewch â’ch addysgu ar-lein, byddwch yn clywed am brofiadau addysgwyr go iawn, yn cael eich cyflwyno i waith ymchwil blaengar, ac yn deall y syniadau a’r adnoddau sy’n ffurfio’r ffordd rydym yn addysgu ac yn dysgu ar-lein. Byddwch hefyd yn dysgu dulliau defnyddiol a fydd yn eich helpu i brofi’r syniadau newydd hyn yn eich ymarfer eich hun. Gallwch ddarllen y trawsgrifiad hyn yn Gymraeg.

Bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill bathodyn digidol Prifysgol Agored. Nid yw'r bathodynnau wedi'u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maen nhw'n ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa, ac i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch reoli'ch bathodynnau digidol ar-lein o My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich datganiad cyfranogi OpenLearn - sydd hefyd yn arddangos eich bathodyn Prifysgol Agored.

Byddai'r Brifysgol Agored wir yn gwerthfawrogi ychydig funudau o'ch amser i ddweud wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dewisol ar ddechrau cwrs  357361. Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi'ch adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella yn y dyfodol, yn ein harolwg dewisol ar ddiwedd y cwrs 358362. Bydd cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol, ac ni fyddwn yn trosglwyddo'ch manylion i eraill.

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Safonau CPD  359363. Gellir ei ddefnyddio i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ond nid yw'n ddysgu achrededig. Ni allwn ddarparu gwasanaethau dilysu dysgwyr ffurfiol ar gyfer cymryd rhan yn ein cyrsiau ar-lein agored, a ddarperir yn rhydd gan y Brifysgol Agored fel CPD hunangyfeiriedig.

Gall unrhyw un sy'n dymuno darparu tystiolaeth o'u cofrestriad ar y cwrs hwn wneud hynny trwy rannu eu Cofnod Gweithgaredd ar eu Proffil OpenLearn, sydd ar gael cyn cwblhau'r cwrs ac ennill y Datganiad Cyfranogiad.

This course is accredited by the CPD Standards Office. It can be used to provide evidence of continuing professional development and on successful completion of the course you will be awarded 24 CPD points. Evidence of your CPD achievement is provided on the free Statement of Participation awarded on completion.

Anyone wishing to provide evidence of their enrolment on this course is able to do so by sharing their Activity Record on their OpenLearn Profile, which is available before completion of the course and earning of the Statement of Participation.

Ewch â’ch addysgu ar-lein

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • Adnabod y gwahaniaethau rhwng addysgu ar-lein ac addysgu mewn amgylchedd wyneb yn wyneb.
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis adnoddau ac addysgeg newydd ar gyfer addysgu ar-lein.
  • Amlygu prif fuddion a heriau addysgu ar-lein.
  • Deall arferion newidiol ymarferwyr wrth iddynt ddefnyddio cyfleoedd ar-lein fel rhwydweithiau cymdeithasol ac adnoddau addysgol agored.
  • Deall sut i greu a gwerthuso dulliau o addysgu ar-lein sy'n briodol i chi.

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/11/2020

Wedi'i ddiweddaru: 23/11/2020

Hepgor Graddau y Cwrs