Mae dysgu ar-lein wedi datblygu’n gyflym ac fe’i gwelir bellach ym mhob maes addysg, o ysgolion i hyfforddi sgiliau. Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu trwy gyrsiau ar-lein. Hyd yn oed pan addysgir ‘wyneb yn wyneb’ yn bennaf, mae adnoddau a rhyngweithio ar-lein wedi dod yn rhan allweddol o’r profiad dysgu.
Ond mae addysgu ar-lein yn wahanol. Os ydych yn gweithio ym maes addysg neu hyfforddiant ar unrhyw lefel, bydd angen i chi ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth newydd i wneud y penderfyniadau iawn, manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, a goresgyn heriau cyffredin.
Mae bron 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Brifysgol Agored dreialu ein cwrs cwbl ar-lein cyntaf gyda’n myfyrwyr. Rydym bellach yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran ymchwilio i addysg ar-lein a’i ddarparu. Yn y cwrs rhad ac am ddim hwn, rhannwn y wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen i addysgu’n effeithiol ar-lein.
Yn Ewch â’ch addysgu ar-lein, byddwch yn clywed am brofiadau addysgwyr go iawn, yn cael eich cyflwyno i waith ymchwil blaengar, ac yn deall y syniadau a’r adnoddau sy’n ffurfio’r ffordd rydym yn addysgu ac yn dysgu ar-lein. Byddwch hefyd yn dysgu dulliau defnyddiol a fydd yn eich helpu i brofi’r syniadau newydd hyn yn eich ymarfer eich hun. Gallwch ddarllen y trawsgrifiad hyn yn Gymraeg.
Bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill bathodyn digidol Prifysgol Agored. Nid yw'r bathodynnau wedi'u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maen nhw'n ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa, ac i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch reoli'ch bathodynnau digidol ar-lein o My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich datganiad cyfranogi OpenLearn - sydd hefyd yn arddangos eich bathodyn Prifysgol Agored.
Byddai'r Brifysgol Agored wir yn gwerthfawrogi ychydig funudau o'ch amser i ddweud wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dewisol ar ddechrau cwrs 357361. Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi'ch adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella yn y dyfodol, yn ein harolwg dewisol ar ddiwedd y cwrs 358362. Bydd cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol, ac ni fyddwn yn trosglwyddo'ch manylion i eraill.
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Safonau CPD 359363. Gellir ei ddefnyddio i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ond nid yw'n ddysgu achrededig. Ni allwn ddarparu gwasanaethau dilysu dysgwyr ffurfiol ar gyfer cymryd rhan yn ein cyrsiau ar-lein agored, a ddarperir yn rhydd gan y Brifysgol Agored fel CPD hunangyfeiriedig.
Gall unrhyw un sy'n dymuno darparu tystiolaeth o'u cofrestriad ar y cwrs hwn wneud hynny trwy rannu eu Cofnod Gweithgaredd ar eu Proffil OpenLearn, sydd ar gael cyn cwblhau'r cwrs ac ennill y Datganiad Cyfranogiad.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- Adnabod y gwahaniaethau rhwng addysgu ar-lein ac addysgu mewn amgylchedd wyneb yn wyneb.
- Gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis adnoddau ac addysgeg newydd ar gyfer addysgu ar-lein.
- Amlygu prif fuddion a heriau addysgu ar-lein.
- Deall arferion newidiol ymarferwyr wrth iddynt ddefnyddio cyfleoedd ar-lein fel rhwydweithiau cymdeithasol ac adnoddau addysgol agored.
- Deall sut i greu a gwerthuso dulliau o addysgu ar-lein sy'n briodol i chi.
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/11/2020
Wedi'i ddiweddaru: 23/11/2020