5.1 Geiriau cyswllt
Mae geiriau cyswllt yn helpu i wneud i’ch dadl lifo, a phan fyddwch yn gwybod ble mae eich paragraffau yn dechrau ac yn gorffen, byddant yn eich helpu i gysylltu’r syniadau hynny a chreu un cyfanwaith ystyrlon. [Mae paragraffau yn rhannu’r ysgrifennu yn bynciau neu brif bwyntiau.]
Mae geiriau cyswllt yn atgoffa’r darllenwr o’r llinyn hyd yma ac yn cyfeirio at yr hyn sydd i ddod yn nes ymlaen (gweler Ffigur 5). Gellir eu defnyddio i
- gysylltu syniadau mewn brawddeg
- cysylltu brawddegau
- cysylltu paragraffau.

Ceisiwch ddefnyddio rhai o’r geiriau cyswllt canlynol yn eich aseiniad nesaf.
Table 2
| I ychwanegu pwynt | I gyferbynnu dau bwynt | I nodi canlyniadau |
| ac … | ond… | oherwydd … |
| hefyd … | Fodd bynnag … | am ... |
| Yn ogystal … | er … | gan ... |
| Yn yr un modd … | Ar y naill law ... | Felly … |
| Nid yn unig.... ond hefyd.... | ar y llaw arall ... | O ganlyniad … |
| Ymhellach ... | Eto … | O’r herwydd ... |
| At hynny ... | Serch hynny … | |
| I roi enghraifft | I symud ymlaen i’r pwynt nesaf | I grynhoi |
| er enghraifft … | … | Yn olaf … |
| hynny yw ... | Yna | I gloi… |
| sef ... | Ar ôl hyn/hynny … | Y casgliad felly yw ... |
| Wedyn ... | I grynhoi... | |
OpenLearn - Paratoi aseiniadau
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
