3 Deall y cwestiwn

[Mae gan bob cwestiwn eiriau allweddol, a bydd eu nodi yn eich helpu i benderfynu beth yw diben yr aseiniad] Cyn i chi ddechrau mynd i’r afael â’ch aseiniad, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn deall beth y mae’n gofyn i chi ei wneud.

Mae gan bob cwestiwn eiriau allweddol, a bydd eu nodi yn eich helpu i benderfynu beth yw diben yr aseiniad a beth y mae’n rhaid i chi ei wneud. Mae geiriau allweddol ‘cynnwys’ yn dweud wrthych am y pynciau y mae’n rhaid canolbwyntio arnynt ac mae geiriau ‘proses’ yn dweud wrthych beth y mae’n rhaid i chi ei wneud gyda’r cynnwys.

Edrychwch yn ofalus i ddechrau ar y cwestiwn a nodwch y geiriau neu’r ymadroddion allweddol.