1.2 Adroddiadau
[Rhennir adroddiadau yn adrannau penodol. Dylech gyfeirio at ddeunyddiau eich cwrs a gofyn i’ch tiwtor pa fath o adroddiad y mae disgwyl i chi ei ysgrifennu a’r adrannau y mae angen i chi eu cynnwys.] Rhennir adroddiadau yn adrannau penodol sy’n amrywio yn ôl y math o adroddiad y gofynnir i chi ei ysgrifennu. Mae’n bosibl y bydd angen yr holl adrannau hyn mewn rhai mathau o adroddiad. Ar gyfer mathau eraill o adroddiad, efallai na fydd angen i chi gynnwys adran ar fethodoleg, er enghraifft. Dylech gyfeirio at ddeunyddiau eich cwrs a gofyn i’ch tiwtor pa fath o adroddiad y mae disgwyl i chi ei ysgrifennu a’r adrannau y mae angen i chi eu cynnwys.
Blwch 1 Adrannau mewn adroddiad
- Teitl
- Crynodeb (neu grynodeb gweithredol)
- Cyflwyniad
- Methodoleg
- Canlyniadau (canfyddiadau)
- Prif gorff (trafodaeth)
- Casgliadau
- Cyfeiriadau a chydnabyddiaethau
[Gellir rhannu corff eich adroddiad yn is-adrannau, y gallwch eu Gellir rhannu corff eich adroddiad yn is-adrannau, y gallwch eu rhifo.] Mae’r crynodeb yn rhan fer, annibynnol o’r adroddiad sy’n disgrifio ei gwmpas a’r prif ganfyddiadau. Dyma’r peth olaf y dylech ei ysgrifennu oherwydd bydd angen i chi gwblhau’r adroddiad cyn y gallwch ei ddisgrifio’n ddigonol.
Mae’r cyflwyniad yn nodi diben a chwmpas yr adroddiad ac yn aml mae ffordd benodol o’i ysgrifennu. Amlinellwch nod yr ymchwiliad neu’r arbrawf a rhestrwch yr amcanion neu’r canlyniadau a fwriedir. Dylai eich cyflwyniad roi gwybodaeth gefndirol hefyd er mwyn egluro’r rheswm dros yr ymchwiliad. Dylech ddod â’ch cyflwyniad i ben gyda brawddeg sy’n arwain at gorff eich adroddiad.
Defnyddir yr adran ar fethodoleg, lle y bo angen, i ddisgrifio pob cam o’r ymchwil a wnaed gennych. Er enghraifft, a wnaethoch gynnal cyfweliadau neu arbrofion, ac os felly, gyda phwy? Sut y gwnaethoch fesur eich canlyniadau?
[Yn eich adroddiad, bydd disgwyl i chi drafod eich canfyddiadau yn fanwl drwy ddadansoddi a dehongli eich canlyniadau ac esbonio eu pwysigrwydd.] Mae’r adran ganlyniadau yn disgrifio canfyddiadau eich ymchwil mewn modd clir a chryno. Peidiwch â son am oblygiadau eich canfyddiadau yma; dylech wneud hynny ym mhrif gorff eich adroddiad. Mae tablau, graffiau a diagramau yn ffyrdd defnyddiol o gyflwyno canfyddiadau meintiol.
Gellir rhannu corff eich adroddrad yn is-adrannau, y gallwch eu rhifo. Mae’n bosibl y bydd gofynion penodol o ran y modd rydych yn trefnu’r wybodaeth yng nghorff eich adroddiad ar gyfer eich cwrs. Gellir ei chyflwyno:
- mewn trefn gronolegol
- fel datganiad o’r broblem, gyda dadansoddiad dilynol o’r camau gweithredu posibl ac argymhelliad i gloi
- fel manteision ac anfanteision cynnig penodol ac yna’r camau gweithredu a argymhellir
Waeth pa ffordd bynnag y byddwch yn trefnu corff eich adroddiad, bydd disgwyl i chi drafod eich canfyddiadau yn fanwl drwy ddadansoddi a dehongli eich canlyniadau ac esbonio eu pwysigrwydd.
Dylai’r casgliad fod yn fyr - ei ddiben yw crynhoi prif bwyntiau eich adroddiad yn yr un ffordd ag y byddai mewn aseiniad ar ffurf traethawd. Ni ddylid cyflwyno unrhyw wybodaeth na phwyntiau newydd yn eich casgliad.