1.3 Aseiniadau llafar
Defnyddir aseiniadau llafar yn aml mewn cyrsiau iaith, lle mae disgwyl i chi recordio eich hun yn siarad yn yr iaith dramor rydych yn ei hastudio. Bydd gwneud nodiadau i gyfeirio atynt wrth recordio eich cyflwyniad yn eich helpu. Fodd bynnag, mae’n bwysig siarad yn naturiol ac osgoi’r arddull undonog sy’n deillio o ddarllen yn syth o sgript. Ceisiwch ddefnyddio nodiadau fel cymhorthion cof yn hytrach na sgript, gan fwrw golwg drostynt o bryd i’w gilydd er mwyn galw gwybodaeth i gof, a pharatowch rai brawddegau megis: yn gyntaf, yn ail, i’r gwrthwyneb, i gloi.
Nodwch arwyddion i fyny neu i lawr uwchben y rhannau hynny o’r frawddeg lle y dylech godi a gostwng goslef eich llais - y patrwm goslef.
Amlygwch eiriau allweddol neu’r geiriau hynny rydych yn cael anhawster i’w dweud, a thanlinellwch neu amlygwch y rhannau penodol o eiriau neu ymadroddion anghyfarwydd i ddangos ble y dylid rhoi’r pwyslais. Er enghraifft, yn Gymraeg:
- pwyslais, patrwm
ac yn Ffrangeg:
- touristes, table
Gwnewch yn siŵr bod eich nodiadau yn ddigon syml a bod eich ysgrifen yn ddigon mawr fel y gallwch eu dilyn yn hawdd. Mae nodiadau cymhleth neu fanwl mewn ysgrifen fach yn anodd i’w defnyddio. Mae nodiadau yn fwy defnyddiol na brawddegau llawn.
Ceisiwch ymarfer dweud eich ymatebion ar gyfer yr aseiniad cyn i chi recordio eich cais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich enw, teitl y cwrs, eich rhif Adnabod Personol a hyd y cyflwyniad ar y recordiad. Cofiwch gadarnhau ar y diwedd bod eich cyflwyniad cyfan wedi’i recordio’n llwyddiannus.
Dylech ymarfer recordio gan newid lefelau’r sain, er mwyn canfod pa lefel sy’n gweithio orau a pha mor bell y mae angen i chi sefyll oddi wrth y microffon wrth recordio.