Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5 Aseiniadau a gaiff eu marcio gan gyfrifiadur

[Gall aseiniadau a gaiff eu marcio gan gyfrifiadur fod yr un mor heriol â mathau eraill o aseiniad ac mae angen meddwl o ddifrif ynghylch pa atebion sy’n gywir.] Mae rhai cyrsiau yn defnyddio aseiniadau a gaiff eu marcio gan gyfrifiadur. Ceir cwestiynau ag atebion dewis lluosog ac fel arfer byddwch yn marcio blwch wrth ymyl yr ateb y credwch ei fod yn gywir. Er eich bod yn nodi’r atebion posibl, gall aseiniadau a gaiff eu marcio gan gyfrifiadur fod yr un mor heriol â mathau eraill o aseiniad ac mae angen meddwl o ddifrif ynghylch pa atebion sy’n gywir.

Mae cwestiynau dewis lluosog yn profi eich gwybodaeth am agweddau ffeithiol ar y cwrs. Gall fformat y cwestiynau hyn amrywio. Er enghraifft, gallai rhai ofyn i chi ddewis datganiad cywir o ddetholiad o ddatganiadau. Gallai eraill gyflwyno rhywfaint o wybodaeth i chi, cwestiwn ar sail y wybodaeth honno ac yna ddetholiad o atebion i ddewis ohonynt.

Gan mai dim ond ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y detholiad o atebion a roddir i chi weithiau, mae’n hanfodol eich bod yn darllen y cwestiwn yn ofalus. Bydd yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y dewis cywir. Fodd bynnag, ceisiwch beidio â threulio gormod o amser ar unrhyw gwestiwn. Os ydych yn debygol o weithio ar gwestiwn drwy gydol y nos, cofiwch efallai mai dim ond cyfran fach o’r marciau cyffredinol y bydd yn cyfrif tuag atynt. Os cewch drafferth gyda chwestiwn penodol, ewch ymlaen at gwestiwn arall gan ddychwelyd ato yn nes ymlaen.

Os yw eich cwrs yn cynnwys aseiniadau a gaiff eu marcio gan gyfrifiadur, dylech gyfeirio at ddeunyddiau eich cwrs i ganfod mwy am sut y gallwch eu cwblhau a’u cyflwyno.