1.6 Aseiniadau ar ddiwedd cwrs
Defnyddir aseiniadau ar ddiwedd cwrs yn lle arholiadau traddodiadol. Y prif wahaniaeth rhwng arholiad ac aseiniad ar ddiwedd cwrs yw y gellir cwblhau’r aseiniad ar ddiwedd cwrs gartref yn hytrach nag mewn neuadd arholiadau ar ddyddiad penodol. Weithiau caiff ei gwblhau yn eich amser eich hun felly gall deimlo ychydig fel aseiniad arferol. Fodd bynnag, gan ei fod yn disodli arholiad, ni allwch lwyddo yn y cwrs heb ei wneud ac mae sgôr eich aseiniad ar ddiwedd y cwrs yn un o’r prif ffactorau a ddefnyddir wrth bennu eich canlyniad ar gyfer y cwrs.
Weithiau mae aseiniadau ar ddiwedd cwrs yn cynnwys gwneud ychydig o waith ymchwil, ac yn achlysurol fe’u gwneir ar y cyd.
Mae’r trefniadau ar gyfer aseiniadau ar ddiwedd cwrs yn amrywio o gwrs i gwrs felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at ddeunyddiau eich cwrs am fanylion.
Ewch i http://www.open.ac.uk/ skillsforstudy/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i gael mwy o fanylion am y math o aseiniad y mae angen i chi ei ysgrifennu.