2.1 Creu eich strategaeth eich hun
Mae a wnelo creu eich strategaeth eich hun â gwybod beth yw gofynion asesu’r cwrs a phenderfynu pa ganlyniad rydych am ei gael. Os gwyddoch beth sydd angen ei gael i lwyddo yn y cwrs, a beth sydd angen ei gael er mwyn cael anrhydedd, yna gallwch benderfynu beth sy’n ymarferol i chi. Mae gan rai myfyrwyr fywydau prysur ac nid oes llawer o amser ganddynt. Felly gallant benderfynu ond gwneud yr hyn sydd ei angen er mwyn llwyddo yn y cwrs. Efallai y bydd gan fyfyrwyr eraill fwy o amser a byddant am neilltuo mwy o amser i wneud yn dda mewn asesiadau. [Me gan rai myfyrwyr fywydau prysur ac nid oes llawer o amser ganddynt. Efallai y bydd gan fyfyrwyr eraill fwy o amser a byddant am neilltuo mwy o amser i wneud yn dda mewn asesiadau.]
Edrychwch ar galendr eich cwrs am derfynau amser aseiniadau a dechreuwch feddwl am neilltuo’r amser sydd ei angen ar gyfer y gwaith.
Os credwch y cewch broblemau i gyflwyno aseiniad penodol ar amser yna gofynnwch i’ch tiwtor neu ganolfan ranbarthol am gyngor cyn y dyddiad cyflwyno olaf posibl.
Er mwyn gwybod beth yw’r rheolau ar gyfer cyflwyno aseiniadau, sut i reoli eich amser a’ch astudiaethau a ble mae eich canolfan ranbarthol, ewch i http://www.open.ac.uk/ skillsforstudy/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .