2.2 Gwybod beth sydd ei angen
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd angen i chi ei wneud ar gyfer pob aseiniad. Edrychwch ar ddeunyddiau eich cwrs i ganfod pa fath o aseiniad y mae disgwyl i chi ei wneud.
Efallai bod eich aseiniad wedi ei rannu yn adrannau gwahanol, â marciau gwahanol i bob rhan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd angen i chi ei wneud ac nad ydych yn colli unrhyw beth. Efallai y bydd angen i chi wybod beth yw’r terfyn geiriau y dylech gadw ato, oherwydd gallech golli marciau os ewch y tu hwnt i’r terfyn hwn.
‘Sdim syniad gen i ble i ddechrau. Y tro diwethaf i mi ysgrifennu ‘aseiniad oedd yn yr ysgol.’
Cymerwch amser i ddeall beth mae cwestiwn yr aseiniad yn ei ofyn. Gallwch drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych am gwestiwn yr aseiniad gyda’ch tiwtor, cynghorydd astudio neu eich cyd-fyfyrwyr. [Cymerwch amser i ddeall beth mae cwestiwn yr aseiniad yn ei ofyn.]
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cwestiwn yr aseiniad o’ch blaen drwy gydol y broses o’r dechrau i’r diwedd; bydd cadw eich llygad ar deitl y cwestiwn yn eich helpu i ganolbwyntio’n gywir.