Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.4.1 Drafft cyntaf

Os ydych yn ysgrifennu traethawd, ystyriwch sut y bydd eich dadl yn datblygu yn eich aseiniad. Dylai eich syniadau ddarllen yn rhesymegol o un i’r llall nes eich bod wedi datblygu thesis cyffredinol eich traethawd. Er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi roi’r syniadau gwahanol rydych wedi meddwl amdanynt mewn trefn. [Ystyriwch sut y bydd eich dadl yn datblygu yn eich aseiniad. Dylai eich syniadau ddarllen yn rhesymegol o un i’r llall.]

Ceisiwch ysgrifennu eich syniadau ar ochr dde darn o bapur a mapiwch bob un i ran benodol o’ch traethawd (gweler Ffigur 3).

Blwch 2

Pan fyddwch yn llunio eich paragraffau, gwnewch yn siŵr eich bod:

  • yn disgrifio’r syniad yn glir
  • yn rhoi rhesymau am ei berthnasedd i gwestiwn y traethawd.
  • yn darparu tystiolaeth i ategu’r syniad.

Gall y dystiolaeth a ddefnyddiwch i ategu eich syniadau fod ar ffurf dyfyniadau uniongyrchol o lyfrau ac erthyglau neu aralleirio syml o ddadl neu ddamcaniaeth rhywun arall. Yn yn naill achos neu’r llall mae’n hanfodol eich bod yn cyfeirio’n briodol at y dystiolaeth a ddefnyddiwch.

Mae angen llif traethiadol ar aseiniadau. Os nad yw prif bwyntiau eich aseiniad yn gysylltiedig â’i gilydd, bydd eich aseiniad yn ymddangos fel petai’n cynnwys rhestr o bwyntiau digyswllt. Mae gwybod sut i ddefnyddio geiriau ac ymadroddion cyswllt (megis ‘fodd bynnag’, ‘serch hynny’, ‘o ganlyniad’) yn rhan hanfodol o ysgrifennu ar gyfer unrhyw gynulleidfa (gweler Adran 5.1).

I weld sut y gallai’r map meddwl yn Ffigur 3 edrych ar ffurf traethawd ac i ddysgu mwy am eiriau cyswllt ewch i http://www. open.ac.uk/skillsforstudy/.

Ffigur 3 Pan fyddwch wedi meddwl am y syniadau rydych am ysgrifennu amdanynt, bydd angen i chi eu rhoi mewn trefn resymegol.