3.2 Geiriau proses
Dyma’r geiriau yn nheitl y cwestiwn sy’n dweud wrthych beth y dylech ei wneud gyda’r cynnwys. Er enghraifft, efallai y byddai rhywun yn gofyn i chi gymharu dwy ddamcaniaeth neu gyfiawnhau syniadau rhywun. Dangosir rhai o’r geiriau proses mwyaf cyffredin yn y tabl drost y tudalen. [Mae geiriau proses yn nheitl y cwestiwn sy’n dweud wrthych beth y dylech ei wneud gyda’r cynnwys. Er enghraifft, efallai y byddai rhywun yn gofyn i chi gymharu dwy ddamcaniaeth neu gyfiawnhau syniadau rhywun.]
Cymharu | Dangoswch beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol a dewch i gasgliad efallai ynghylch yr hyn sydd orau. |
Cyferbynnu | Canolbwyntiwch ar beth sy’n wahanol, er y gallwch nodi bod rhai pethau yn debyg hefyd. |
Beirniadu/Gwerthuso | Gwnewch ddyfarniad (ond peidiwch â rhoi barn bersonol) ynghylch gwerth damcaniaethau, neu safbwyntiau, neu ynghylch gwirionedd gwybodaeth, wedi ei ategu gan drafodaeth ar y rhesymu dan sylw a chan dystiolaeth o ddeunyddiau’r cwrs. |
Diffinio | Rhowch union ystyr gair neu ymadrodd. Mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi roi diffiniadau gwahanol posibl. |
Trafod | Eglurwch, yna nodwch ddwy ochr y mater ac unrhyw oblygiadau. |
Egluro | Rhowch fanylion am sut a pham y mae hyn yn wir. |
Cyfiawnhau | Rhowch resymau dros safbwynt, penderfyniadau neu gasgliadau. Soniwch hefyd am unrhyw brif wrthwynebiadau neu ddadleuon yn eu herbyn. |
Dyma deitlau’r cwestiynau hynny eto, a’r tro hwn mae’r geiriau proses mewn print trwm.
Cymharwch eich addysg eich hun hyd yma ag addysg un o’ch rhieni, un o’ch plant (os oes gennych rai) neu ffrind o genhedlaeth wahanol. Pa bwyntiau cymhariaeth sy’n ymddangos yn bwysig i chi a pham?
Gan ddefnyddio enghreifftiau o astudiaethau achos Jean ac Emma ym Mhennod 5 dangoswch sut y gall yr amgylchedd lleol, yn cynnwys tai, ddylanwadu ar iechyd a lles.
Fel y gwelwch geiriau cynnwys yw’r rheini sy’n nodi ‘cynnwys y cwestiwn. Y geiriau proses yw’r rheini sy’n dweud wrthych beth i’w wneud gyda’r cynnwys. Nodwch fod gair proses ymhlyg ym mrawddeg olaf y cwestiwn cyntaf ond yn y bôn mae’r cwestiwn yn gofyn i chi egluro pam y credwch fod y pwyntiau cymhariaeth rydych wedi eu gwneud yn bwysig: ‘Eglurwch pa bwyntiau cymhariaeth sy’n ymddangos yn bwysig i chi a pham?’