Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Cyflwyniadau

Dylai hyd eich cyflwyniad fod yn gymesur â hyd eich traethawd. Dylai fod rhwng pump a deg y cant o gyfanswm nifer y geiriau. Ceisiwch gadw at un paragraff, yn enwedig os yw’r terfyn geiriau o dan 1000 o eiriau. Ar gyfer traethawd hirach, gallwch ysgrifennu sawl paragraff.

Swyddogaeth cyflwyniad yw nodi’r prif gwestiwn neu fater a chyflwyno a diffinio’r geiriau neu’r termau allweddol. Dylech dynnu sylw at y prif ddadleuon sy’n sail i’r cwestiwn a chyfeirio at gamau’r cynnwys neu’r ddadl. [Swyddogaeth cyflwyniad yw nodi’r prif gwestiwn neu fater.]

Efallai y byddwch am ysgrifennu’r cyflwyniad cyn i chi ddechrau, ac os felly mae’n syniad da gwirio ac addasu’r geiriad a sicrhau ei fod yn gywir ar ôl i chi ysgrifennu’r drafft cyntaf.

Ar gyfer aseiniadau ar ffurf adroddiad, mae ffordd benodol yn aml o ysgrifennu’r cyflwyniad. Dylid amlinellu nod yr ymchwiliad neu’r arbrawf, gan restru’r amcanion neu’r canlyniadau a fwriedir. Dylech hefyd ddarparu gwybodaeth gefndir er mwyn egluro pam y gwnaed yr ymchwiliad neu’r arbrawf ac efallai nodi’r hyn nad ydych yn bwriadu ysgrifennu amdano - gan nodi felly gwmpas eich adroddiad.

Gorffennwch eich cyflwyniad gyda brawddeg sy’n arwain at gorff eich adroddiad.