Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Casgliadau

Dylai eich casgliad ddangos eich bod wedi ateb y cwestiwn a osodwyd ar gyfer yr aseiniad. Gallwch wneud hyn drwy:

  • gyfeirio at y geiriau allweddol (proses a chynnwys) yn y teitl
  • crynhoi elfennau allweddol eich dadl a phrif gynnwys corff eich traethawd neu adroddiad
  • awgrymu efallai (yn enwedig mewn adroddiad) yr hyn sydd angen ei ystyried yn y dyfodol.

Ni ddylai casgliadau fod yn rhy hir. Ar gyfer traethawd neu adroddiad o lai na 1,500 o eiriau mae paragraff cloi o 50-100 o eiriau yn ddigon siŵr o fod. Ni ddylai fod yn hwy na’r cyflwyniad. [Dylai eich casgliad ddangos eich bod wedi ateb y cwestiwn ac hefyd ddangos fod y prif bwyntiau wedi grynhoi.]

Ceisiwch osgoi cyflwyno syniadau neu enghreifftiau newydd yn eich casgliad. Cofiwch grynhoi’r prif bwyntiau yn unig a pheidiwch ag ailadrodd enghreifftiau.