Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.2 Cyfeirio

Mae cyfeiriad llawn yn cynnwys cyfeiriad byr yn y testun at bob ffynhonnell, gyda rhestr o’r manylion llawn ar ddiwedd yr aseiniad. Diben cyfeiriad yw galluogi eich darllenwr i ddod o hyd i’r cyhoeddiad gwreiddiol y gwnaethoch dynnu eich tystiolaeth ohono, neu y gwnaethoch seilio eich dadl arno.

Blwch 3

Mae cyfeiriadau fel arfer yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw a llythrennau blaen yr awdur
  • blwyddyn gyhoeddi
  • teitl y bennod a’r llyfr (neu deitl yr erthygl a’r cyfnodolyn)
  • enw’r cyhoeddwr
  • man cyhoeddi.

Mae union fformat y cyfeiriadau yn amrywio rhwng disgyblaethau a chyrsiau academaidd felly mae’n syniad da gwirio llawlyfr eich aseiniad am wybodaeth am ba fath o ddull cyfeirio a ffafrir. Un canllaw yw gweld sut y cânt eu trin yn y deunyddiau ar gyfer eich cwrs.