Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.3 Aralleirio

Bydd y rhan fwyaf o’ch gwaith ysgrifennu ar gyfer aseiniadau yn cynnwys aralleirio gwaith pobl eraill. Mae’n sgil bwysig wrth ysgrifennu gwaith academaidd.

[Arallirio yw ailddatgan ddadl pobl eraill ond yn eich geiriau chi eich hun.] Pan fyddwch yn aralleirio dadl rhywun arall, byddwch yn ailddatgan ei ddadl ond yn eich geiriau chi eich hun. Mae angen i chi egluro eich bod yn adeiladu ar waith rhywun arall. Gallwch wneud hyn yn syml drwy sôn am enw’r awdur, fel yn yr enghraifft ganlynol ac yna restru’r manylion cyfeirio llawn ar ddiwedd yr aseiniad.

Mae Halliday (1978) yn honni bod plant yn datblygu eu hiaith drwy ryngweithio â’r rhai o’u hamgylch.

Un o ganlyniadau terfynol pwysig ysgrifennu syniadau neu gysyniadau yn eich geiriau chi eich hun yw eich bod yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r deunydd rydych yn ysgrifennu amdano.