6.4 Dyfynnu
Os gwelwch fod awdur wedi crynhoi dadl mewn ffordd arbennig o argyhoeddiadol, efallai y byddwch am ei ddyfynnu’n uniongyrchol. Pan fyddwch yn dyfynnu union eiriau rhywun, rhowch ei eiriau mewn dyfynodau (‘ ...’).
Mae Halliday (1978, t.1) yn honni bod ‘A child creates, first his child tongue, then his mother tongue, in interaction with that little coterie of people who constitute his meaning group.’ ...
Gallwch naill ai roi’r dyfyniad hwn yng nghorff eich testun, fel uchod, neu gallwch ddefnyddio dull arddangos dyfyniad, gan ei wahanu oddi wrth eich testun, a’i osod ar y llinell nesaf a’i fewnosod, ac os felly caiff y dyfynodau eu hepgor fel arfer. [Pan fyddwch yn dyfynnu union eiriau rhywun, rhowch ei eiriau mewn dyfynodau.]
Er y gall dyfynodau fod yn ffordd dda o ychwanegu diddordeb at eich ysgrifennu, rhaid i chi fod yn ofalus nad ydych yn dibynnu arnynt ormod. Dylai dyfyniad ategu’r ddadl rydych yn ei gwneud eich hun, ni ddylai wneud y ddadl ar eich rhan. [Dylai dyfyniad ategu’r ddadl rydych yn ei gwneud eich hun. ysgrifennwch y ddadl yn eich geiriau chi eich hun fel tystiolaeth ategol ar gyfer eich dadl.]
Camgymeriad cyffredin yw gadael i’r dyfyniad wneud y gwaith esboniadol i gyd, felly cofiwch, ysgrifennwch y ddadl yn eich geiriau chi eich hun a defnyddiwch y dyfyniad yn syml fel tystiolaeth ategol ar gyfer eich dadl.