Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Paratoi aseiniadau
Paratoi aseiniadau

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.1 Ysgrifennu ar gyfer y brifysgol

Er bod Cymraeg academaidd yn wahanol i Gymraeg ysgrifenedig bob dydd, mae’r gallu i ysgrifennu mewn arddull academaidd yn rhywbeth a ddysgwch wrth i chi astudio yn y brifysgol. Peidiwch â disgwyl gallu ysgrifennu Cymraeg academaidd nes eich bod wedi darllen nifer o ddeunyddiau eich cwrs, dysgu rhai o’r termau a dechrau ysgrifennu am eich pwnc.

Ar ddechrau eich astudiaethau ni fydd disgwyl i chi gynhyrchu aseiniadau wedi eu hysgrifennu’n berffaith. Mae cyrsiau lefel 1 wedi eu paratoi fel eu bod yn eich helpu i ddechrau ysgrifennu ar gyfer y brifysgol a bydd eich tiwtor yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu.

Wrth i chi symud ymlaen i gyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 bydd disgwyl i’ch sgiliau ysgrifennu aseiniadau wella. Cewch arweiniaid o hyd ar sgiliau ysgrifennu lle bo angen, fodd bynnag, bydd yr adborth yn canolbwyntio mwy ar gynnwys eich aseiniad yn hytrach na’ch sgiliau ysgrifennu sylfaenol.

Mae’r wefan Skills for OU Study [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn rhoi canllawiau ar gwblhau aseiniadau ar lefel prifysgol.