8.2 Gramadeg, sillafu ac atalnodi
Mae llawer o adnoddau defnyddiol ar gael os ydych yn poeni am eich gramadeg a’ch sillafu. Dewch o hyd i eiriadur cynhwysfawr a thesawrws i’ch helpu i wirio sillafu a dod o hyd i eiriau newydd i’w defnyddio - mae rhai ar gael ar-lein. Gall y cyfleuster gwirio sillafu yn eich prosesydd geiriau fod yn ddefnyddiol iawn, ond byddwch yn ofalus ynghylch dibynnu ar y gwiriwr sillafu yn ddifeddwl gan fod angen i chi fod yn siŵr bod y gair cywir yn ei le.
Mae’r wefan Skills for OU Study [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau defnyddiol i’ch helpu gyda sillafu a gramadeg.