3 Cyfyngiadau efelychu digidol mewn addysg gofal iechyd
- Diffyg profiad yn y byd go iawn: ni all efelychiadau ailadrodd natur anrhagweladwy a chymhlethdod sefyllfaoedd clinigol go iawn yn llawn. Gall hyn gyfyngu ar allu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun byd go iawn.
- Problemau technegol: mae efelychiadau'n dibynnu'n fawr ar dechnoleg, sydd weithiau'n gallu methu neu fod yn anodd ei defnyddio. Gall trafferthion technegol amharu ar ddysgu ac achosi rhwystredigaeth.
- Costau uchel: gall datblygu a chynnal rhaglenni efelychu o ansawdd uchel fod yn ddrud. Mae hyn yn cynnwys cost meddalwedd, caledwedd a hyfforddiant i addysgwyr.
- Hyfforddiant sgiliau rhyngbersonol cyfyngedig: er bod efelychiadau'n gallu addysgu sgiliau gweithdrefnol, efallai na fyddant yn addysgu sgiliau rhyngbersonol fel cyfathrebu, empathi a gwaith tîm yn effeithiol, sy'n hanfodol mewn gofal iechyd.
- Hygyrchedd: mae’n bosibl na fydd gan bob myfyriwr fynediad at y dechnoleg angenrheidiol neu'r rhyngrwyd cyflym sydd ei hangen ar gyfer efelychu digidol effeithiol, gan arwain at wahaniaethau mewn cyfleoedd dysgu.
- Gorddibyniaeth ar efelychu: mae perygl y bydd myfyrwyr yn dibynnu gormod ar efelychiadau ac na fyddant yn cael digon o brofiad ymarferol gyda chleifion go iawn.
Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae efelychiadau digidol yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr mewn addysg gofal iechyd, yn enwedig pan gânt eu defnyddio ar y cyd â dulliau addysgu eraill.
Gweithgaredd 1
Rhan 1: Myfyrio
Gwnewch eich nodiadau eich hun i ymateb i'r cwestiynau canlynol.
Sut ydych chi'n teimlo am ddefnyddio efelychiadau digidol mewn addysg gofal iechyd?
- Meddyliwch am y cyfleoedd a'r cyfyngiadau posibl o ddefnyddio efelychiad digidol yn eich lleoliad ymarfer eich hun.
- Os yw'n bosibl, trafodwch hyn gyda chydweithiwr a gwnewch nodiadau ar eich casgliadau.
Rhan 2: Cwis
Cwestiwn 1: Pa un o'r canlynol sy'n un o brif fanteision efelychu digidol ym maes gofal iechyd o ran canlyniadau cleifion?
Cwestiwn 2: Mae efelychiadau digidol yn cyfrannu at gaffael sgiliau yn bennaf drwy’r canlynol:
Cwestiwn 3: Un o fanteision allweddol efelychu digidol wrth feithrin sgiliau cydweithio ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yw:
OpenLearn - Cyflwyniad i efelychu digidol ym maes gofal iechyd
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.