6.1 Strategaeth addysg a hyfforddiant Cymru gyfan sy'n seiliedig ar efelychu
Mae strategaeth addysg a hyfforddiant Cymru gyfan sy'n seiliedig ar efelychu yn gynllun cynhwysfawr a ddatblygwyd i wella addysg a hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu (SBET) ar draws y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru (AaGIC, 2022). Dyma rai pwyntiau allweddol:
- Dull cydweithredol a chydlynol: mae'r strategaeth yn pwysleisio dull cydweithredol a chydlynol i sicrhau addysg a hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu o ansawdd uchel, rhyngbroffesiynol a hygyrch. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, addysgwyr a chynrychiolwyr lleyg.
- Nodau ac amcanion strategol: mae'r strategaeth yn amlinellu nifer o nodau strategol, gan gynnwys gwella diogelwch cleifion a defnyddwyr gwasanaethau, gwella profiadau dysgu, a sicrhau cost-effeithiolrwydd. Mae hefyd yn canolbwyntio ar hyrwyddo ansawdd, datblygu cyfadrannau, a defnyddio llwyfannau digidol.
- Gweithredu a gwerthuso: mae'r strategaeth yn cynnwys cynlluniau manwl ar gyfer gweithredu a gwerthuso, gan sicrhau bod y mentrau'n cael eu hintegreiddio'n effeithiol i'r system gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, adolygiadau perfformiad, a defnyddio technolegau ymdrochol.
- Cefnogi darpariaeth efelychu: mae'r strategaeth yn rhoi arweiniad ar gefnogi darpariaeth efelychu, gan gynnwys hygyrchedd, datblygiad rhyngbroffesiynol, ac ymchwil. Ei nod yw creu fframwaith addysg cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar efelychu.
Mae strategaeth addysg a hyfforddiant Cymru gyfan sy'n seiliedig ar efelychu yn cefnogi efelychiad mewn sawl ffordd:
- Dysgu cydweithredol: mae'r strategaeth yn hyrwyddo dull cydweithredol a chydlynol o ymdrin ag addysg a hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu, gan ymgysylltu ag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, addysgwyr a chynrychiolwyr lleyg.
- Ansawdd a diogelwch: mae'n pwysleisio gwella diogelwch, profiadau a chanlyniadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau drwy addysg a hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys gweithredu arferion gorau ac egwyddorion gwella ansawdd.
- Hygyrchedd a chynhwysiant: Mae'r strategaeth yn sicrhau bod addysg a hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan roi cyfleoedd ar gyfer datblygiad rhyngbroffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Llwyfannau digidol a thechnolegau ymdrochol: mae'n annog defnyddio llwyfannau digidol a thechnolegau ymdrochol i wella profiadau dysgu a gwneud efelychu'n fwy effeithiol a diddorol.
- Datblygu cyfadrannau: mae'r strategaeth yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfadran fedrus i ddarparu hyfforddiant efelychu o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys rhoi adnoddau ac arweiniad ar gyfer datblygu cyfadrannau ac adolygiadau perfformiad. Cynnwys Dysgu Parhaus: Mae'r strategaeth yn pwysleisio pwysigrwydd DPP i sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn diweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth yn barhaus. Mae hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddi rheolaidd, gweithdai, a mynediad at y technolegau a'r methodolegau efelychu diweddaraf.
- Datblygiad rhyngbroffesiynol: mae'r strategaeth yn hyrwyddo datblygiad rhyngbroffesiynol drwy annog sesiynau hyfforddi cydweithredol lle gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o wahanol ddisgyblaethau ddysgu ac ymarfer gyda'i gilydd. Mae hyn yn helpu i wella gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu, sy'n hanfodol ar gyfer gofal cleifion.
- Profiadau dysgu ar y cyd: mae'n cefnogi profiadau dysgu ar y cyd drwy senarios efelychu sy'n cynnwys sawl rôl gofal iechyd, gan feithrin gwell dealltwriaeth o gyfrifoldebau ei gilydd a gwella cydlyniad gofal cyffredinol.
- Ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth: mae'n hyrwyddo ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella addysg a hyfforddiant sy'n seiliedig ar efelychu'n barhaus a sicrhau ei fod yn diwallu anghenion newidiol y gweithlu gofal iechyd.
Gyda'i gilydd, mae'r elfennau hyn yn sicrhau bod efelychu'n cael ei integreiddio'n effeithiol i addysg a hyfforddiant gofal iechyd yng Nghymru, gan fod o fudd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion yn y pen draw.
Gweithgaredd 3
Rhan 1: Myfyrio
Gwnewch eich nodiadau eich hun i ymateb i'r cwestiynau canlynol.
Sut gallech/fyddech chi'n gwneud efelychu digidol yn hygyrch i bawb?
- Meddyliwch am y cyfleoedd a'r cyfyngiadau posibl o ddefnyddio efelychu digidol yn eich lleoliad ymarfer eich hun.
- Os yw'n bosibl, trafodwch hyn gyda chydweithiwr a gwnewch nodiadau ar eich casgliadau.
Rhan 2: Cwis
Cwestiwn 1: Beth yw un o brif elfennau strategaeth addysg a hyfforddiant Cymru gyfan sy'n seiliedig ar efelychu o ran ei dull gweithredu?
Cwestiwn 2: Pa un o'r canlynol sydd heb ei restru'n benodol fel nod strategol neu amcan strategaeth Cymru gyfan?
Cwestiwn 3: Pa rôl sydd gan 'Llwyfannau digidol a thechnolegau ymdrochol' yn strategaeth Cymru gyfan?
OpenLearn - Cyflwyniad i efelychu digidol ym maes gofal iechyd
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.