Cyflwyniad

Bydd y cwrs am ddim hwn, Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio, yn rhoi cipolwg i chi ar nyrsio yn y DU a’i le yn y byd.

Mae pandemig byd-eang (COVID-19) wedi taflu goleuni ar wasanaethau iechyd a’r bobl sy’n gweithio ynddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys nyrsys. Nyrsys yw’r grŵp galwedigaethol mwyaf yn y sector iechyd. Ond beth mae bod yn nyrs yn ei olygu? Sut mae dod yn Nyrs Gofrestredig yn y DU, a sut beth yw’r rhaglen addysg? Ym mha fathau o rolau y mae nyrsys yn y DU yn gweithio, a sut mae penderfynu a yw nyrsio yn eich siwtio chi?

Nyrs yn dal clipfwrdd yn siarad ag aelod arall o staff yr ysbyty mewn coridor.

Bydd y cwrs hwn yn edrych ar yr holl bethau hyn a mwy. Wrth i chi weithio eich ffordd drwy’r adrannau a’r gweithgareddau, byddwch chi’n dysgu mwy am nyrsio heddiw, a lle gallai eich lle chi fod yn y byd nyrsio.

Mae’r cwrs OpenLearn hwn yn cael ei greu ar y cyd â chyrsiau’r Brifysgol Agored mewn Nyrsio a Gofal Iechyd.