7 Rôl defnyddwyr gwasanaethau mewn gofal iechyd

Mae defnyddwyr gwasanaethau yn rhan allweddol o’r GIG. Mewn grwpiau yn aml, maen nhw’n darparu adnodd i lywio’r gwaith o wella gwasanaethau, ac yn cynnig eu safbwyntiau i wneud penderfyniadau a newidiadau mewn sefydliadau.

Ym mhob un o bedair gwlad y DU, mae defnyddwyr gwasanaethau wrth galon eu gwasanaethau iechyd a’u gwaith cynllunio iechyd. Mae rôl y gofalwr neu’r defnyddiwr gwasanaethau yn y GIG wedi bod yn tyfu am dros ddegawd bellach. Mae hyn wedi golygu bod gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau gofal iechyd yn cael mewnbwn ar bob lefel, o lunio polisïau i gynghori ar welliannau i wasanaethau ar lefel ward neu uned.

Mae gan lawer o wasanaethau yn y GIG lwybrau penodol ar gyfer cynnwys defnyddwyr gwasanaethau drwy bwyllgorau, grwpiau ac adnoddau fel arolygon boddhad ac adborth cleifion.

Gweithgaredd 10 Lleisiau gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau

Gwyliwch Fideo 6 a meddwl am y cwestiynau canlynol.

  • Pam ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bwysig rhoi llais i ofalwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau?

  • Sut ydych chi’n meddwl y gall cynnwys defnyddwyr gwasanaethau helpu nyrsys i ddarparu gofal gwell?

Fideo 6:
(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Discussion

Mae gan y bobl ifanc yn y fideo hwn farn am y gwasanaeth iechyd a sut hoffent ei weld yn cael ei newid a’i siapio yn y dyfodol. Mae’r fforymau wedi galluogi hyn i ddigwydd.

I nyrsys, mae gwrando ar yr hyn sydd ei eisiau ar gleifion a defnyddwyr gwasanaethau, a’u profiadau o’r gwasanaethau, yn helpu i lunio a datblygu gofal o ansawdd da.