8.3 Nyrsio anableddau dysgu
Gall nyrsys anableddau dysgu weithio mewn unrhyw leoliad lle mae pobl ag anabledd dysgu yn byw, yn gweithio neu’n dysgu. Gall hyn fod mewn ‘timau cymunedol’, lleoliadau preswyl, ysgolion, gweithleoedd, clinigau ac mewn ysbytai, gan helpu pobl ag anabledd dysgu i gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae llawer o nyrsys anableddau dysgu yn gweithio gyda thimau amlddisgyblaethol mewn cymunedau lleol, gan helpu pobl ag anabledd dysgu i fyw bywyd i’r eithaf. Yn y maes hwn, gallai nyrsys weithio gyda phlant neu oedolion i’w helpu i fod mor annibynnol â phosibl ac i fyw bywyd boddhaus. Mae pobl yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau dysgu yn aml, ac efallai y bydd angen i nyrsys eirioli dros y bobl yn eu gofal a’u teuluoedd.
Gwyliwch Fideo 9, sy’n dangos rhai o’r rhesymau posibl dros ddewis nyrsio anableddau dysgu.
OpenLearn - Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.

