1 Beth ydych chi’n ei wybod am nyrsio yn y DU?
Byddwch yn dechrau’r adran hon gyda chwis er mwyn gweld beth yw eich dealltwriaeth gyfredol o nyrsio a’r hyn mae’n ei olygu. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod yr atebion i unrhyw un o’r cwestiynau, mae adborth yn cael ei roi ar gyfer pob un.
Gweithgaredd 1 Beth ydych chi’n ei wybod am nyrsio yn y DU?
Faint o amser mae’n ei gymryd i hyfforddi i fod yn Nyrs Gofrestredig yn y DU?
Answer
Gall hyd cyrsiau amrywio yn dibynnu ar eich cymwysterau a’ch profiad. Mae rhai prifysgolion yn cynnig cyrsiau byr i raddedigion a chyrsiau hirach i’r rheini sydd angen astudio’n rhan-amser neu astudio ar lefel sylfaen. Mae’r holl addysg ar lefel gradd yn y DU ac fel arfer mae’n cymryd rhwng 2 a 6 blynedd i’w chwblhau, gyda’r radd amser llawn gyfartalog yn para tua 3 blynedd.
Gall unrhyw un alw ei hun yn Nyrs Gofrestredig. Cywir neu Anghywir?
Answer
Yn y DU, mae’r teitl ‘Nyrs Gofrestredig’ wedi’i ddiogelu gan y gyfraith ac mae’n rhaid i bawb sy’n defnyddio’r teitl hwn fod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Fodd bynnag, nid yw’r teitl ‘nyrs’ wedi’i ddiogelu, felly gall unrhyw un ei ddefnyddio. Yn Adran 5 y cwrs hwn, byddwch yn edrych ar rôl rheoleiddio a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Ar wahân i ysbytai, ble arall mae nyrsys yn gweithio?
Answer
Mae nyrsys yn gweithio mewn amrywiaeth eang o weithleoedd yn y DU a ledled y byd. Ar wahân i ysbytai, fe welwch nyrsys mewn canolfannau a chlinigau iechyd, meddygfeydd, ysgolion, carchardai, cartrefi gofal a nyrsio, ar longau mordeithio, mewn busnesau mawr, yn y gymuned, yng nghartrefi pobl, mewn canolfannau galwadau fel 111, yn y Llywodraeth ac yn y byd addysg. Mae Adran 2 y cwrs hwn yn edrych ychydig yn fanylach ar y gwahanol rolau gwaith hyn.
Yn y DU, pa ganran o nyrsys sy’n ddynion?
A yw’n tua:
Answer
Mae adroddiad data’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer 2020/2021 yn awgrymu mai ychydig dros 10% o’r rheini sydd ar y gofrestr nyrsio yn y DU sy’n ddynion (80,500) (Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, 2021).
Yn y DU, pa ganran o nyrsys sy’n gweithio mewn ysbytai?
Answer
Yn ôl Carmel (2017), mae 56% o nyrsys yn y DU yn gweithio mewn ysbytai.
Pwy oedd Mary Seacole a beth mae hi’n ei olygu i’r proffesiwn nyrsio?
Answer
Mae hanes nyrsio yn bwysig i’r proffesiwn, ac mae nyrsio’n weithlu amrywiol. Nyrs Brydeinig-Caribïaidd oedd Mary Seacole a oedd yn gweithio ar yr un pryd â Florence Nightingale yn ystod Rhyfel y Crimea. Bu’n gweithio ar y rheng flaen yn ystod y rhyfel yn cynnig triniaeth i gannoedd o filwyr ac yn eu hadsefydlu.
Yn aml, mae pobl wedi clywed am Florence Nightingale, ond yn gwybod ychydig iawn am y nyrs Brydeinig Mary Seacole a’i gwaith. Os hoffech wybod mwy am Mary Seacole, gallwch ddarllen mwy yn y Mary Seacole Trust.
Beth yw’r pedwar maes nyrsio yn y DU?
Answer
Mae pedwar maes nyrsio yn y DU:
- Nyrsio oedolion
- Nyrsio iechyd meddwl
- Nyrsio plant
- Nyrsio anableddau dysgu.
Mae gan bob un o’r meysydd hyn ei arbenigedd ei hun ac mae ganddo ei safonau ei hun ar gyfer addysg. Yn Adran 8 y cwrs hwn, byddwch yn edrych yn fanylach ar bob un o’r meysydd.
Wrth i chi weithio drwy’r cwrs, bydd yr adrannau yn ehangu eich gwybodaeth am nyrsio. Yn Adran 2, byddwch yn dechrau drwy edrych ar ddiffiniad nyrsio.
OpenLearn - Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
