3 Deall eich gwerthoedd eich hun a gwerthoedd ym maes nyrsio

Mae deall y cysylltiad rhwng credoau, gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad yn allweddol i ddeall o ble mae eich meddyliau, eich agweddau a’ch ymddygiad yn dod yn eich bywyd personol ac yn eich bywyd fel nyrs. Mae Ffigur 1 yn dangos y cysylltiadau rhwng eich credoau, eich gwerthoedd, eich agweddau a’ch ymddygiad.

Cysylltiad rhwng ymddygiad, agweddau, gwerthoedd a chredoau. Disgrifiad llawn yn y ddolen Disgrifiad hir.
Ffigur 1 Diagram gwerthoedd a chredoau

Yn Ffigur 1, mae’r pedair adran yn gorgyffwrdd i awgrymu bod pob adran yn cael effaith ar y llall. Mae ein credoau’n siapio ein gwerthoedd, mae ein gwerthoedd yn siapio ein hagweddau ac, yn eu tro, mae’r rhain i gyd yn siapio ein hymddygiad.

Gweithgaredd 3 Beth yw fy nghredoau a’m gwerthoedd?

Yn Nhabl 1 isod, ysgrifennwch eich ymatebion i’r cwestiynau, beth sy’n bwysig i mi? A beth sydd bwysicaf i mi?

Tabl 1 Fy nghredoau a’m gwerthoedd

Yn y byd Yn fy ngwaith (cyflogedig, di-dâl neu wirfoddol) Yn fy mherthynas â phobl eraill Ynof fi fy hun
Beth sy’n bwysig i mi?
(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Beth sydd bwysicaf i mi?

Interactive feature not available in single page view.

A yw’r pethau sy’n bwysig i chi yn croesi rhwng categorïau? Yn aml, os yw gwerth, fel gonestrwydd, yn bwysig i chi yn eich gwaith, mae hefyd yn bwysig yn eich perthnasoedd. Edrychwch ar y pethau sy’n gorgyffwrdd a beth sydd bwysicaf i chi. Wrth i chi weithio drwy’r adrannau nesaf, byddwch yn gweld sut mae eich credoau a’ch gwerthoedd yn effeithio ar ymarfer nyrsio.