Long description
Pedwar cylch y tu mewn i’w gilydd. Mae label ‘credoau’ ar y cylch mewnol. Mae blwch ar y dde yn disgrifio credoau. Mae’n dweud: syniadau rydyn ni’n eu hystyried yn ‘wir’ yw credoau. Tybiaethau am y byd a sut rydyn ni’n byw ynddo. Gall credoau fod yn seiliedig ar bob un neu rai o’r canlynol: crefydd/ysbrydolrwydd, gwleidyddiaeth, cymdeithasol, moesoldeb, economeg, deallusol.
Mae label ‘gwerthoedd’ ar yr ail gylch. Mae blwch ar y dde yn disgrifio gwerthoedd. Mae’n dweud: Mae gwerthoedd yn egwyddorion arweiniol ym mywydau pobl a gallant gynnwys: rhyddid, gonestrwydd, cydraddoldeb, doethineb, angerdd a thosturi. Maen nhw’n dybiaethau am y byd a sut rydyn ni’n byw ynddo.
Mae label ‘agweddau’ ar y trydydd cylch. Mae blwch ar y dde yn disgrifio agweddau. Mae’n dweud: Mae agweddau’n cynnwys tair elfen: gwybyddol – yr hyn rydyn ni’n ei gredu; affeithiol – ein teimladau; ymddygiadol – cysylltiadau rydyn ni wedi’u dysgu.
Mae’r pedwerydd cylch (y mwyaf) y mae’r tri chylch arall i mewn ynddo wedi’i labelu’n ‘ymddygiadau’. Mae blwch ar y dde yn disgrifio ymddygiadau. Mae’n dweud: Ymddygiad yw’r ffordd y mae rhywun yn ymddwyn a chredir ei fod yn seiliedig ar eu credoau, eu gwerthoedd a’u hagweddau.