Transcript

HAYLEY:
Mae gennym ni ddwy ferch hyfryd. Mae gan Nattie, yr ieuengaf, syndrom Down. Er ei bod hi’n saith oed erbyn hyn, dim ond yn ddiweddar dwi wedi dysgu am nyrsys anableddau dysgu.
Dim ond ar ôl bod mewn Cynhadledd Sefydliad Anableddau Dysgu Prydain fel mam ac fel siaradwr y clywais am nyrsys anableddau dysgu am y tro cyntaf. Mi wnes i gwrdd â Jim Blair, sy’n hynod ysbrydoledig. Eisteddais yn y gynulleidfa’n gwrando. Ac fe ddysgais am addasiadau rhesymol.
Dysgais am Death by Indifference ac am Winterbourne. Dysgais lawer iawn am droseddau casineb yn erbyn pobl anabl. Ac roeddwn i’n eistedd yno gyda dagrau’n llifo i lawr fy mochau ac ar fy sgert smart.
Roeddwn i’n crio ac yn poeni am ddyfodol fy merch, a oedd yn bum mlwydd oed ar y pryd. Roeddwn i’n crio hefyd am fy mod mor ddiolchgar am yr unigolion, yr elusennau a’r sefydliadau hynny sy’n poeni cymaint amdani hi a’i hawliau, a hawliau pobl eraill ag anableddau dysgu, ag ydw i fel rhiant. Oherwydd, lle ar y ddaear fydden ni i gyd heboch chi.
Hyd at yr adeg honno, roeddem ni fel teulu wedi cael ein cefnogi gan gymysgedd anhygoel o nyrsys newyddenedigol, meddygon ymgynghorol, ymwelwyr iechyd, a gweithwyr Portage, ar y cyd â rhai o weithwyr proffesiynol a oedd yn fwy amwys a rhai a oedd yn gas hyd yn oed, ond fe wnaethom ni ddal ati, ac yn reddfol, mi wnaethom ni glosio at y rhai a oedd yn deall. Roedd rhestr hir o angylion meddygol. Y meddyg teulu a oedd gan ŵyr â syndrom Down.
Y cwnselydd bwydo ar y fron a wnaeth ein helpu ni i ddefnyddio tiwb nasogastrig i fwydo Nattie tan ei bod hi’n dod i arfer. Y fydwraig ddoeth a ddywedodd wrthyf am garu Nattie, p’un ai a oeddem yn ei cholli ai peidio, oherwydd roedd Nattie angen y cariad hwnnw. Roedd cymaint o angylion meddygol gwych.