Transcript
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
SIARADWR:
Ni yw’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, neu’r NMC. Ac rydyn ni’n helpu i gadw pobl yn ddiogel drwy reoleiddio nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. Mae hynny’n golygu mai ni sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr eu bod nhw’n dysgu ac yn gweithio i’r safonau gorau posibl er mwyn i bawb gael y gofal a’r cymorth gorau posibl pan fydd eu hangen arnyn nhw.
O’r diwrnod cyntaf, rydyn ni’n dweud wrth fyfyrwyr beth sydd angen iddyn nhw ei ddysgu ac yn gosod safonau ar gyfer sut y dylid eu haddysgu fel y gallan nhw, pan fyddan nhw’n gymwys, gamu i’w swyddi cyntaf gyda’r sgiliau a’r wybodaeth gywir i ofalu am bobl yn ddiogel ac yn effeithiol. Rydyn ni hefyd yn cadw cofrestr er mwyn i chi allu gweld pwy sy’n cael gweithio fel nyrs neu fydwraig yn y DU, ac fel cydymaith nyrsio yn Lloegr. Ar hyn o bryd, mae’n cynnwys mwy na 690,000 o bobl.
Byddech chi’n disgwyl i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni gyrraedd y safonau cywir a dilyn y cod proffesiynol drwy gydol eu gyrfa, ac rydyn ninnau hefyd. Dyna pam mae gennym broses o’r enw ailddilysu, y mae’n rhaid ei chwblhau bob tair blynedd. Mae hyn hefyd yn dangos i ni fod pobl yn parhau i ddysgu a datblygu, ac yn myfyrio yn eu hymarfer.
Mae’r gweithwyr proffesiynol ar ein cofrestr yn gweithio’n galed i ddarparu’r gofal gorau posibl, ond rydyn ni’n gwybod bod pethau’n gallu mynd o chwith weithiau. Pan fo pryderon ynghylch ymarfer nyrs, bydwraig, neu gydymaith nyrsio, gallwn ymchwilio i’r mater a chymryd camau gweithredu lle bo angen i ddiogelu’r cleifion. Bwriad hyn, fel popeth a wnawn, yw cadw pawb yn ddiogel, gan ysbrydoli balchder proffesiynol ac ymddiriedaeth y cyhoedd.