Transcript
SIARADWR 1:
Gadewch i ni siarad am broffesiynoldeb. Mae thema ganolog wedi bod drwy gydol y gyfres hon. Mae’n ymwneud â bod yn hyderus yn eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd fel gweithiwr proffesiynol, yn enwedig mewn amgylchiadau anodd.
Ond beth mae proffesiynoldeb yn ei olygu? Ymddygiad? Gwybodaeth? Rhagoriaeth? Uniondeb? Bod yn esiampl i eraill?
I nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio, mae’n golygu’r holl bethau hynny a mwy. Mae bod yn weithiwr proffesiynol cofrestredig yn ennyn ymddiriedaeth a hyder pobl ynoch chi yn awtomatig. Ond mae gan bawb eu disgwyliadau eu hunain o beth ddylai gweithiwr proffesiynol fod. Felly i gadw ymddiriedaeth pobl, mae angen i chi fodloni eu disgwyliadau.
Mae’r Cod yn pwysleisio eich bod yn llysgennad ar ran eich proffesiwn drwy’r amser. Rhaid i onestrwydd a rhagoriaeth fod yn flaenoriaeth hyd yn oed pan nad ydych chi’n gweithio. Bydd yr hyn rydych chi’n ei weld ac yn ei wneud, gan gynnwys sut rydych chi’n gofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun, yn cael effaith ar y ffordd mae pobl yn meddwl am nyrsio a bydwreigiaeth.
Y peth arall am broffesiynoldeb yw ei fod yn mynd law yn llaw ag arweinyddiaeth. A dydyn ni ddim yn sôn am fod yn fos. Mae bod yn arweinydd yn golygu dangos i bobl eraill sut i fod yn rym er lles, beth bynnag fo’ch sefyllfa.
Mae’n golygu bod yn esiampl sy’n dylanwadu ar genedlaethau o nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio yn y dyfodol. Byddan nhw’n edrych arnoch chi ac yn meddwl, waw, dyna dwi eisiau bod. Mae hefyd yn golygu bod yn ddilynwr da. Mae hynny’n golygu cefnogi pobl mewn swyddi arweinyddiaeth sy’n ceisio gwneud y peth iawn, sy’n gallu golygu gwneud penderfyniadau anodd sydd ddim bob amser yn boblogaidd.
Ac mae’n golygu bod yn aelod da o dîm. Mae hyn yn golygu cydnabod eich cryfderau a’ch gwendidau eich hun a rhai pobl eraill. Yna gweithio gyda’ch gilydd, rhannu eich sgiliau, a gadael i eraill ddisgleirio. Bydd adegau anodd, lle bydd eich hyder yn simsan. Yn yr adegau hynny, cofiwch eich bod yn rhan o un o’r proffesiynau mwyaf dibynadwy yn y DU. A chofiwch fod y Cod proffesiynol yn ganllaw defnyddiol i chi.
Mae’n fraint cael ymddiriedaeth a hyder pobl, a rhaid gweithio i’w cynnal. Eich cyfrifoldeb personol chi yw eich proffesiynoldeb. Peidiwch byth â rhoi’r gorau i ddysgu, myfyrio, na cheisio gwella. Drwy wneud hynny, byddwch yn parhau i ddarparu gofal caredig, diogel ac effeithiol sy’n gwella iechyd a lles pawb – ni waeth beth fo’r amgylchiadau.
Rydyn ni’n gobeithio bod Gofalu gyda Hyder-- Y Cod ar Waith wedi eich helpu i adnabod ac i deimlo’n hyderus am eich proffesiynoldeb eich hun. Diolch am wylio.