Transcript
GULWALI:
Llais unedig pobl ifanc yw’r Fforwm Ieuenctid.
ROWAN:
Defnyddio’r bobl ifanc fel cyfrwng i wella’r GIG.
GEORGE:
Ceisio cael effaith gadarnhaol ar bolisi gofal iechyd.
TOM:
Cynrychioli barn pobl ifanc a gwneud yn siŵr bod y GIG yn atebol i bobl ifanc.
YASMIN:
Rhoi llais i bobl ifanc.
VIKRAM:
Gwrando ar eu barn ac yna gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth er budd yr holl bobl ifanc.
JESS:
Mae gan bobl ifanc hawl a chyfrifoldeb i gael eu clywed.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
VIKRAM:
Bendant yn gallu gweld Fforwm Ieuenctid y GIG yn cyrraedd yr un lefel â’r byrddau gwneud penderfyniadau ac yn cael effaith go iawn ar draws y GIG i gyd.
ROWAN:
Dwi’n meddwl bydd y Fforwm Ieuenctid yn gallu cyfrannu drwy strwythur cyfan y GIG mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Y cwestiwn ydy, sut ydyn ni’n defnyddio’r pŵer hwnnw.
AMY:
Dwi wedi defnyddio llawer o wasanaethau’r GIG ac mae gen i dipyn o wybodaeth mewnol sy’n gallu helpu i gyfrannu at ffyrdd mae modd eu newid, a dysgu o hynny.
YASMIN:
Drwy gyflwyno cwestiynau bach fel, beth yw eich barn chi am hyn, sut byddai modd gwella’r GIG, efallai byddwch chi’n gallu cael rywfaint o ddeialog gyda phobl ifanc.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
DAVID:
Byddwn yn lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl pobl ifanc yn eu harddegau.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
NATHAN:
Byddwn yn diwygio’r canllawiau sy’n cael eu rhoi i feddygon ar hyn o bryd ac yn edrych ar hyfforddiant i wella’r cyfathrebu rhwng pobl ifanc a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
JESS:
Byddwn yn gweithio gydag elusennau fel Brook i gael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â defnyddio gwasanaethau cynghori rhywiol.
AMY:
I fi, mae gwaith pontio yn beth enfawr, oherwydd dydy plant ddim yn troi’n oedolion dros nos. Mae bwlch i bobl ifanc. Allwch chi ddim disgwyl i blentyn ddechrau defnyddio gwasanaethau i oedolion yn syth heb fod yn barod am hynny, oherwydd byddan nhw’n agored i niwed bryd hynny. Felly dydy o ddim yn deg arnyn nhw. Ac i fi, ceisio gwella hynny sy’n bwysig.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
NATHAN:
Rydyn ni eisoes yn gwneud gwaith rhwydweithio drwy NHS England i gyd er mwyn iddyn nhw allu llawn ddeall ein pwrpas.
JOE:
Dwi’n meddwl bod Neil-- y cyfarwyddwr profiad cleifion-- yn frwd iawn dros hyn, oherwydd dywedodd mai un o’r pethau roedden nhw’n edrych arno ar hyn o bryd oedd cael llawer mwy o adborth gan y bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw, fel cleifion ac ati. Ac felly dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl ifanc mewn ffordd, a chael eu safbwyntiau a dod o hyd i ffordd o ymgorffori eu hadborth yn y system er mwyn i ni allu newid pethau er gwell gobeithio.
DAVID:
Efallai nad yw oedolion weithiau eisiau clywed beth sydd gan bobl ifanc i’w ddweud, ond maen nhw eisiau clywed hynny hefyd oherwydd yn y bôn, mae’r hyn rydyn ni’n ei ddweud yn eu helpu i wneud y gwasanaethau’n well byth.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
YASMIN:
Dwi’n gobeithio byddwn yn gwneud argraff ar y GIG ac yn dangos i’r oedolion yn y gwasanaeth bod gan bobl ifanc lais yn y GIG, ac ym maes gofal iechyd.
GULWALI:
Mewn blwyddyn, hoffwn weld bod y Fforwm yn achosi newid go iawn ac yn gwneud gwahaniaeth, oherwydd does dim pwrpas cael Fforwm heb achosi newid. Felly, creu ymwybyddiaeth, rhoi gwybod i bobl ifanc bod y Fforwm hwn yn bodoli a’i fod yn gallu gwneud yn siŵr bod y bobl sy’n gyfrifol yn clywed eu llais.
AMY:
Does dim byd yn mynd i newid dros nos, ond gallwch chi ddechrau creu effaith. A dyna’r unig ffordd y bydd pethau’n digwydd.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]