Transcript

KIRAN JNAGAL:
‘Nes i ddechrau yn 2004 fel cynorthwyydd gofal iechyd yn y sefydliad hwn. Ac roeddwn i wrth fy modd. Doeddwn i erioed wedi clywed am nyrsio iechyd meddwl. Felly roedd hon yn her hyfryd iawn i fi.
Yna, ‘nes i ddechrau gwneud fy ffordd o gwmpas gwahanol rolau nes i un o’r nyrsys ddweud bod angen i fi fod yn nyrs iechyd meddwl. A ‘nes i feddwl, o gosh, ydw i’n gallu gwneud hyn? Es i amdani a gwneud fy hyfforddiant, a dechrau gweithio gydag oedolion ar wardiau acíwt. Felly roeddwn i’n ffodus iawn, yn ddigon ffodus i symud i fyny’r rhengoedd yn eithaf araf a datblygu i fod yn rheolwr ward.
Yna cefais gyfle i fod yn fetron e-amserlennu, a oedd yn her wahanol arall i fi. Ac wedyn fe ges i fy merch fach. Felly roeddwn i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth. Ar ôl i fi ddychwelyd, gofynnon nhw tybed a fyddwn i’n gallu cefnogi gwaith datblygu ymarfer y nyrsys yn y sefydliad lle roeddwn i wedi gwneud cais llwyddiannus.
Y peth gwych am y rôl hon yw fy mod i’n gallu bod yn fam i fy merch fach, ac mae gen i un arall ar y ffordd hefyd. Ond mae fy sefydliad a fy ngweithle yn hyblyg iawn. Mynd i apwyntiadau gyda fy oriau sy’n fy helpu i ofalu am fy nheulu a chael swydd amser llawn. Doedd dim rhaid i mi gwblhau unrhyw gymwysterau ychwanegol ar gyfer y rôl. Mae fy mhrofiad o fod yn nyrs ac yn rheolwr ward wedi fy helpu i ddatblygu fy arddull arwain fy hun, sydd wedi fy ngalluogi i fagu hyder i gyflwyno rhaglenni i staff nyrsio ar draws y sefydliad.
Yn ogystal â dilyn cyrsiau DPP Shaw, pan fyddaf yn dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth dwi’n bwriadu gwneud gradd meistr mewn arweinyddiaeth glinigol, a byddwn yn gwneud hynny yma yn y sefydliad. Mae pob diwrnod yn wahanol. Mae rhai diwrnodau’n eithaf gweinyddol, lle mae’n rhaid ymateb i ymholiadau a chwestiynau gan staff ar draws y sefydliad. Dyddiau eraill, dwi’n hwyluso sesiynau. Felly, rhai diwrnodau cyfan allan gyda staff, a diwrnodau eraill efallai fy mod ar y ward lle dwi’n hwyluso ymarfer effeithiol i staff.
Mae’r rhaglen yn helpu staff i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau arwain, i edrych ar reoli eu hunain yn y gweithle, ac yna meddwl am eu gyrfa mewn nyrsio. Gan fy mod yn dod o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, mae’n bwysig iawn i fi wneud yn siŵr ein bod yn cynrychioli’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae llawer o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Safonau Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu yn dangos nad yw staff o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn camu ymlaen i swyddi uwch. Mae’r rhaglen dwi’n ei rhedeg yn rhoi cyfle i bobl feddwl amdanyn nhw eu hunain, eu diwylliant, sut mae hynny’n gweddu i’r gweithlu, a pham nad ydyn nhw’n gwneud cais am swyddi uwch. Dylen nhw allu meddwl – dwi’n gallu gwneud hyn. Felly mae’r rhaglen yn rhoi’r hyder iddyn nhw ddweud y gallwn wneud hyn gyda’n gilydd.
Rhan arall o fy rôl yw mynd yn ôl i ymarfer clinigol er mwyn i fi allu cadw fy sgiliau fy hun hefyd. Felly ychydig ddyddiau byddaf yn mynd allan i wardiau neu yn y gymuned ac yn treulio’r diwrnod gyda’r tîm. Yn bersonol, dwi’n frwd iawn dros nyrsio iechyd meddwl a datblygu ymarfer. A dwi’n cael fy ysbrydoli bob dydd gan staff, eu penderfyniad a’r rolau maen nhw’n eu cyflawni.
Yr hyn dwi’n ei fwynhau fwyaf am fy rôl yw gallu cefnogi staff nyrsio ar eu taith nyrsio, sy’n eu galluogi i ddarparu’r gofal gorau i’n cleifion. Dwi’n lwcus iawn o fod yn y sefyllfa hon ac o fod yn uwch nyrs. Mae staff yn gallu dod ata i pryd bynnag mae ganddyn nhw unrhyw gwestiynau neu ymholiadau. A gallaf helpu i fod yn eiriolwr ac yn llais iddyn nhw pan fydd angen.
Mae bod yn y rôl hon wedi fy ngalluogi i weld pethau o safbwynt gwahanol. Mae’n fy ngalluogi i drosi fy mhrofiadau a fy arweinyddiaeth fy hun drwy’r rhaglenni dwi’n helpu i’w darparu. Mae gweithio ym maes iechyd meddwl yn gallu bod yn heriol iawn. Ond mae gweld claf yn gwella, yn dychwelyd adref yn y gymuned yn gwneud y cyfan yn werth chweil.