Transcript

[CERDDORIAETH YN CHWARAE]

SIARADWR:
Oeddech chi’n gwybod bod dros 1.5 miliwn o bobl ag anableddau dysgu yn y DU? Beth yw anabledd dysgu? Mae’n effeithio ar y ffordd mae person yn deall gwybodaeth a sut mae’n cyfathrebu. Mae’n effeithio ar bobl drwy gydol eu bywyd. Ac mae angen dull gofal unigryw ar bobl ag anableddau dysgu. Maen nhw angen pobl sy’n meddwl ychydig yn wahanol.
Mae gan nyrsys anableddau dysgu un o’r gyrfaoedd mwyaf amrywiol a chyffrous ym maes gofal iechyd – ac mae’n newid bywydau. Efallai eich bod yn meddwl bod nyrsio yn golygu iwnifform a’r un drefn yn aml, ond nid peth felly yw nyrsio anableddau dysgu. Mae pob diwrnod yn wahanol.
Rhaid i nyrsys anableddau dysgu ddefnyddio amrywiaeth enfawr o sgiliau a thalentau. Weithiau maen nhw’n ymchwilwyr, yn ceisio canfod beth sydd o’i le a pham. Ar adegau eraill maen nhw’n ymgyrchwyr, yn hybu hawliau’r bobl maen nhw’n eu cefnogi. Maen nhw’n ddarganfyddwyr, yn dod o hyd i ffyrdd newydd llawn dychymyg o ddarparu gofal, ac yn bobl greadigol a fydd bob amser yn edrych ar bethau’n wahanol.
Mae nyrsys anableddau dysgu yn gweithio gyda phobl o bob cefndir, o bob oed, ym mhob amgylchedd, ac ar draws nifer o wahanol leoedd. Maen nhw’n rym er lles cymdeithasol, gan weithio gyda’r bobl fwyaf difreintiedig ac sydd fwyaf ar ymylon cymdeithas.
Weithiau mae gan bobl ag anableddau dysgu anghenion sy’n cael eu hanwybyddu. Ond o bethau syml bob dydd i sefydlu cymorth sy’n newid bywyd y rhai sydd yn eu gofal, mae nyrsys anableddau dysgu yn trawsnewid bywydau ac mae angen llawer mwy ohonynt ar y DU. Llawer mwy o bobl sy’n fodlon gwneud gwaith anhygoel. Llawer mwy o bobl sy’n fodlon dilyn llwybr gwahanol.
Felly, ydych chi’n gwerthfawrogi cydraddoldeb a hawliau dynol? Ydych chi am frwydro yn erbyn anghyfiawnder? Allwch chi edrych yn ddyfnach na’r wyneb? Ac ydych chi’n awyddus i wneud rhywbeth gwahanol bob dydd? Dyma’ch cyfle felly. Nyrsio anableddau dysgu – mentrwch ddilyn llwybr gwahanol.

[CERDDORIAETH YN CHWARAE]