Transcript
CRAIG DAVIDSON:
Craig ydw i, a dwi’n nyrs oedolion sydd newydd gofrestru.
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
Mae hi’n 6:30 AM. Ers dod yn nyrs, dwi wedi troi’n seren fore braidd. Dyma'r coffi cynta’. Dwi’n gweithio i Bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Dinas Glasgow fel rhan o’u Tîm Pontio ar gyfer Iechyd Ceiswyr Lloches. Rydyn ni'n trefnu bod ceiswyr lloches yn cael eu cysylltu gyda meddyg teulu lleol a gydag unrhyw wasanaethau eraill sydd eu hangen arnynt. Y rheswm pam roeddwn i mor daer am ymuno â’r tîm hwn yw ei fod yn mynd drwy newidiadau cyffrous iawn a’i fod yn cael ei arwain yn gyfan gwbl gan nyrsys.
Mae 13 ohonom ni yn y tîm erbyn hyn. Pum nyrs oedolion. Arweinydd y tîm, prif nyrs, a thri nyrs Band 5. Dwi’n un o’r rheini. Mae pedwar nyrs iechyd meddwl yn y tîm. Hefyd mae dau weithiwr cymorth nyrsio a dau aelod o staff gweinyddol. Ond roeddwn i eisiau sôn rhywfaint am fy niwrnod. Dwi am fynd am gawod nawr. Dydw i ddim yn gyrru felly rydw i’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y gwaith. Felly well i fi siapo!
Mae’n 8:30 nawr. I'r rhai craff yn eich plith, do dwi wedi cael ‘costume change’ bach. Coffi rhif dau nawr, i bwy bynnag sy’n gyfrifol am gadw golwg ar fy lefelau caffein heddiw. Felly dwi wedi dod ymlaen yn gynnar i ddal i fyny â phethau doeddwn i ddim wedi llwyddo i’w gwneud y diwrnod cynt. Dwi wedi dod i lenwi ffurflen HC1 ar gyfer cwpl o’r cleifion roeddwn i wedi’u gweld. Dwi angen llenwi ychydig o asesiadau risg hefyd. Rydyn ni’n cwblhau rhywbeth o’r enw CRAFT.
Mae’n 9:50 nawr. Felly croeso i fy ystafell clinig hyfryd. Dwi’n un o ddau nyrs oedolion sy’n cynnal yr asesiadau iechyd cychwynnol bore ‘ma. Mae gennym ddau slot apwyntiadau ac mae hynny’n gadael i ni gael awr gyfan gyda’r ceiswyr lloches. Pwrpas hynny yw gofyn cyfres o gwestiynau. Rydyn ni hefyd yn cynnal arsylwadau llinell sylfaen. Rydyn ni’n mesur lefel siwgr eu gwaed. Rydyn ni’n cymryd sampl gwaed gwythiennol i sgrinio am unrhyw feirysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed. Rydyn ni hefyd yn gwneud prawf wrin i weld a oes ganddyn nhw unrhyw fath o haint wrin.
Felly yn gyntaf, mae ffurflen o’r enw IA yn cael ei hanfon atom ni. Mae’n rhoi llawer o wybodaeth i ni am y cleifion. Mae’n 12:30 erbyn hyn. A dwi wedi gorffen gweld y ddau glaf roedd gen i bore ‘ma. Roedd angen i’r ddau ddyn weles i bore ‘ma gael eu hatgyfeirio at dimau iechyd meddwl. Ac oherwydd trawma iechyd rhywiol, roedd angen atgyfeirio un ohonyn nhw at wasanaethau iechyd rhywiol. Yn ystod COVID, mae’r mwyafrif helaeth o geiswyr lloches wedi cael eu rhoi mewn gwestai. Nes ymlaen prynhawn ‘ma, dwi’n mynd allan i’r gwestai i wneud rhywfaint o waith brysbennu.
Mae’n 1.45 nawr, newid bach mewn lleoliad. Fe wnes i wneud y gwaith brysbennu dros y ffôn. Felly fe wnes i ddefnyddio Language Line a’n gwasanaethau dehongli i ffonio’r cleifion hyn i gael gwybod eu pryderon. Mae angen i ni fod yn greadigol ac yn hyblyg iawn. Mae pob diwrnod yn wahanol. Dwi’n mynd i wneud rhywbeth eithaf cyffrous nawr, felly fe gewch chi wybod am hynny nes ymlaen.
Mae’n 05:45 erbyn hyn. Dwi gartref, yn ôl yn fy nillad bob dydd, a dyma goffi ola’r dydd, addo. [GAN CHWERTHIN] Felly roeddwn i yn Sandyford heddiw. Ac mae hynny oherwydd bod ein harweinydd tîm wedi meddwl am syniad gwych, sef creu pedair nyrs gyswllt – plant a theuluoedd, iechyd y fam, iechyd rhywiol, a feirysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed. Byddwn ni’n cylchdroi bob pedwar mis. Pwrpas hynny yw rhoi cyfle go iawn i’r holl nyrsys oedolion gael datblygiad proffesiynol parhaus, ond hefyd i ni allu deall yn well y gwasanaethau rydyn ni’n atgyfeirio pobl atyn nhw.
Dwi wir yn edrych ymlaen. Mae’n haul braf yn yr Alban. Felly dwi’n mynd i gael rhywfaint o amser meddwlgarwch ac amser i fi fy hun, a mynd â fy nghi bach allan i’r ardd. Diwedd diwrnod hir iawn. Dwi newydd fod allan yn yr ardd gyda fy nghi. Efallai eich bod chi’n ei glywed yn chwyrnu cysgu yn y cefndir.
[CHWYRNU]
Felly rhan anoddaf fy rôl, yn gyntaf, yn fy marn i yw gwrando a chlywed am y trawma emosiynol mae pobl wedi’i ddioddef. Pobl ydyn ni gyd. Dyna sy’n gyffredin rhyngom ni. Ac mae clywed am y dioddefaint a beth mae’r bobl hyn wedi’i brofi yn cael argraff go iawn oherwydd ein bod ni, fel nyrsys, i gyd yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni gyd am i fywyd fod yn well. Y rhan sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yw gallu gwneud y gwahaniaeth amlwg hwnnw, heb os.
Pan ‘nes i ymuno â’r tîm, ‘nes i awgrymu ein bod yn rhestru nodweddion gwarchodedig rhywioldeb a hunaniaeth rhywedd, dim ond oherwydd eu bod yn rhesymau pam mae pobl yn ffoi rhag erledigaeth. Y diwrnod ar ôl i hynny gael ei ychwanegu at y ffurflen FERO, ‘nes i gwrdd â chwpl hyfryd, cwpl hoyw, a oedd wedi ymuno â’r system. A drwy ofyn y cwestiwn hwnnw a gofyn am eu rhywioldeb, fe wnaethon nhw ddechrau siarad am y peth am y tro cyntaf. Ac roeddwn i’n gallu eu cysylltu â sefydliadau trydydd sector yn Glasgow.
Mae nyrsio yn yrfa sy’n rhoi cymaint o foddhad. Byddwn yn annog unrhyw un i ddilyn gyrfa nyrsio. Dwi’n falch o fod yn nyrs. Dewch o hyd i’ch pobl. Dyna beth rydyn ni wedi ceisio ei wneud gyda Rhwydwaith Nyrsys Newydd Gofrestru’r Coleg Nyrsio Brenhinol oherwydd mae’n gallu bod yn anodd. Mae’n gallu teimlo’n heriol ar brydiau. Mae angen y rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid hwnnw. Diolch o galon am ddilyn fy hanes ac am ddilyn holl straeon fy nghyd-weithwyr, sydd wedi rhannu diwrnod o’n bywyd. A diolch i chi am fod yn nyrs ac am wneud gwahaniaeth.