Transcript

[CERDDORIAETH YN CHWARAE]

EMILIA CLARKE:
Rydyn ni wedi bod yn creu ffilm ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys i gydnabod gwaith anhygoel nyrsys a bydwragedd.
ALISSON BECKER:
Mae gan bob un ohonom bethau i fod yn ddiolchgar amdanynt.
STEPHEN MCGANN:
Dwi’n ddiolchgar i’r nyrsys a oedd yn gofalu am fy ngwraig pan oedd hi’n ddifrifol wael yn yr ysbyty’r llynedd.
ELIZABETH IRO:
Dwi’n ddiolchgar bod nyrsys a bydwragedd yn ein helpu i wneud cynnydd tuag at iechyd i bawb ledled y byd.
ALISSON BECKER:
Dwi’n ddiolchgar am y bydwragedd a gawson ni pan gafodd ein plant eu geni.
TEDROS ADHANOM GHEBREYESUS:
2020 yw Blwyddyn Ryngwladol Nyrsys a Bydwragedd.
SHEILA TLOU:
Ar hyn o bryd, mae diffyg o 9 miliwn o nyrsys a bydwragedd ledled y byd.
ANNETTE KENNEDY:
Mae miliynau o bobl ledled y byd yn dibynnu ar nyrsys.
EMILIA CLARKE:
Roedd cymaint mwy y gallem fod wedi’i ddweud. Roeddwn i wedi bwriadu sôn am sut roedd nyrsys wedi achub fy mywyd, ddwywaith. Ond wedyn digwyddodd pandemig COVID-19 ac roedd hi’n amhosibl i ni barhau i ffilmio.
Nawr mae’r neges yn gliriach nag erioed. Mae arnom angen nyrsys a bydwragedd nawr ac yn y dyfodol i sicrhau mynediad at iechyd i bawb, ym mhob man. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn gyfle perffaith i ddiolch o galon i’r holl nyrsys a bydwragedd ledled y byd sy’n gweithio’n ddiflino, yn aml heb ddiolch, i’n cadw ni i gyd yn ddiogel. Mae’n hanfodol bod llywodraethau’n rhoi sgiliau arwain i nyrsys a bydwragedd er mwyn iddynt allu arwain ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i achub bywydau. Rhannwch eich stori eich hun, a gadewch i ni ddiolch yn fawr iawn i nyrsys a bydwragedd ledled y byd.