Transcript
SIARADWR:
Mae gofal yn ganolog i’r gwaith y mae nyrsys yn ei wneud. Mae gofal rydyn ni’n ei ddarparu yn gwella iechyd unigolion a chymunedau. Tosturi yw’r ffordd rydyn ni’n darparu gofal sy’n seiliedig ar egwyddorion urddas, parch ac empathi. Cymhwysedd yw’r wybodaeth a’r sgiliau sydd gennym i ddarparu gofal diogel ac effeithiol sy’n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth.
Mae cyfathrebu’n sail i’n perthnasoedd gofalgar. Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i waith tîm a gofal diogel i gleifion. Dewrder yw gwneud y peth iawn, lleisio eich barn pan fydd angen a dangos cryfder personol wrth symud pethau yn eu blaenau. Ymrwymiad. Fel nyrsys, rydyn ni’n ymrwymo i’r rheini sydd yn ein gofal, ond hefyd i’r proffesiwn i wella gofal a gwella profiad y rheini sydd yn ein gofal.