Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio
Felly, rydych chi eisiau bod yn nyrs? Cyflwyniad byr i nyrsio

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.1 Credoau a gwerthoedd ar waith mewn ymarfer nyrsio

Mae nyrsio’n cynnwys sawl agwedd ar ryngweithio rhwng pobl, gan gynnwys cyfathrebu, gwneud penderfyniadau a meithrin perthnasoedd. Mae eich credoau a’ch gwerthoedd yn nodwedd allweddol o bwy ydych chi fel nyrs. Yn eich rôl fel nyrs, mae angen i chi ddeall eich credoau a’ch gwerthoedd er mwyn i chi allu sicrhau eich bod yn darparu gofal proffesiynol ac anfeirniadol i’r rheini sydd ei angen.

Gweithgaredd 4 Archwilio eich credoau

Ym mhob senario isod, dychmygwch mai chi yw’r nyrs. Ystyriwch sut rydych chi’n teimlo wrth ddarllen y senario, sut rydych chi’n meddwl y byddech chi’n ymateb, ac ystyriwch pa gredoau y gallai eich ymateb fod yn seiliedig arnynt.

Senario 1

Mae claf wedi cael ei dderbyn i’ch ward/uned. Mae’n sâl ond mae wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn.

Yn y senario hon, ydych chi’n meddwl bod y person yn haeddu cael triniaeth? Os ydych chi wedi ateb ydw neu nac ydw, yna beth mae hyn yn ei ddweud wrthych chi am eich gwerthoedd a’ch credoau?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Senario 2

Mae unigolyn sy’n ddibynnol ar alcohol a chyffuriau wedi cael ei dderbyn i gael trawsblaniad iau. Rydych chi’n ymwybodol ei fod wedi ceisio rhoi’r gorau i yfed alcohol a chymryd cyffuriau droeon, ond mae wedi dweud yn glir ei fod yn bwriadu mynd yn ôl at hyn ar ôl cael triniaeth.

Yn y senario hon, ydych chi’n meddwl bod y person yn haeddu cael triniaeth? Os ydych chi wedi ateb ydw neu nac ydw, yna beth mae hyn yn ei ddweud wrthych chi am eich gwerthoedd a’ch credoau?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Senario 3

Mae person ifanc wedi cael ei roi yn eich gofal ar ôl ceisio lladd ei hun. Nid yw eisiau cael ei drin, ac mae wedi dweud wrthych chi ei fod ‘eisiau marw’.

Yn y senario hon, sut ydych chi’n meddwl y byddech chi’n ymateb? Yn eich barn chi, beth mae eich ymateb yn ei ddweud wrthych am eich gwerthoedd a’ch credoau?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Senario 4

Mae plentyn ag anableddau dysgu a chorfforol difrifol yn wael iawn ac mae angen trafod opsiynau dadebru gyda’r rhieni.

Yn y senario hon, sut ydych chi’n meddwl y byddech chi’n ymateb? Yn eich barn chi, beth mae eich ymateb yn ei ddweud wrthych am eich gwerthoedd a’ch credoau?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Trafodaeth

Mae’r adborth isod yn edrych ar sut y gallai eich gwerthoedd a’ch credoau fod wedi effeithio ar y ffordd y gwnaethoch ymateb i’r pedair senario.

Mae gwerthoedd yn cael dylanwad mawr ar weithredoedd ymarferwyr mewn ffyrdd cynnil a ffyrdd mwy amlwg. Weithiau dydych chi ddim yn ymwybodol o’ch credoau a sut gallan nhw siapio’r ffordd rydych chi’n meddwl am gleifion. Er enghraifft, os ydych chi’n credu y dylai pobl reoli faint maen nhw’n ei yfed, a pheidio â disgwyl unrhyw gymorth gan y GIG os na allant wneud hynny, yna rydych chi’n debygol o gredu nad yw’r claf yn Senario 2 yn haeddu cael cymorth.

Mae eich gwerthoedd a’ch credoau personol yn rhan annatod o’ch cymdeithasoli proffesiynol. Mae’r gwerthoedd a’r credoau sydd gennych pan fyddwch chi’n dechrau nyrsio yn siapio eich datblygiad fel nyrs, a’ch cymdeithasoli proffesiynol. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn dysgu beth yw bod yn nyrs, sut i fod yn anfeirniadol a pheidio â gadael i ragfarn lywio eich penderfyniadau. Er y gallech chi wir gredu nad yw’r person yn Senario 1 yn haeddu cael unrhyw fath o driniaeth, mae gwasanaethau iechyd yno i bawb ac mae eich gwerthoedd nyrsio yn awgrymu eich bod yn gofalu am bawb.

Yn aml, credoau a gwerthoedd personol sydd wrth wraidd y rheswm pam mae pobl yn dewis nyrsio.

Mae pobl yn aml yn dweud eu bod wedi dewis nyrsio oherwydd eu bod eisiau gofalu am eraill a helpu eraill i fod mor annibynnol â phosibl. Mae’r rhain yn gredoau a gwerthoedd am gefnogi pobl agored i niwed a phobl sâl mewn cymdeithas. Bydd gennych hefyd set o gredoau personol a allai fod wedi cael eu llunio gan eich safbwyntiau crefyddol. Yn achos Senario 3, efallai eich bod yn credu’n bersonol bod hunanladdiad yn anghywir ac y gallai hynny wedyn ddylanwadu ar y ffordd yr ydych yn rhyngweithio â’r person ifanc hwnnw.

Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau’n awgrymu nad ydych yn newid eich gwerthoedd a’ch credoau sylfaenol wrth ddod ar draws senarios a allai herio eich barn, ond eich bod yn cymryd camau penodol pan fo’r credoau a’r gwerthoedd hyn yn gwrthdaro â’r sefydliad.

Yn gyffredinol, rydych chi’n cadw at eich gwerthoedd sylfaenol pan fyddwch chi’n dechrau nyrsio, ond mae’n bosibl y bydd adegau pan fydd y gwerthoedd personol hyn yn cael eu herio. Enghraifft bosibl yw eich bod yn credu y dylai pob bywyd gael ei amddiffyn dan unrhyw amgylchiadau. Gallai hynny fod yn Senario 4 lle ceir trafodaeth ynghylch a yw plentyn yn cael ei ddadebru ai peidio, a bod hyn yn gwrthdaro â’ch credoau a’ch gwerthoedd personol.

Pan fydd gormod o wrthdaro rhwng eich credoau a’ch gwerthoedd personol, gall nyrsys ddewis gadael y sefydliad a hyd yn oed y proffesiwn.