3.2 Chwe gwerth craidd nyrsio
Mae nyrsio yn broffesiwn sy’n seiliedig ar nifer o werthoedd allweddol, ond beth yw gwerth hynny yng nghyd-destun nyrsio?
Mae gwerthoedd nyrsio yn gredoau sylfaenol yn y proffesiwn. Dyma beth mae’r proffesiwn yn ei olygu ac maen nhw’n siapio’r camau y mae’r rheini yn y proffesiwn yn eu cymryd.
Mae’r GIG yn Lloegr yn diffinio chwe gwerth craidd. Mae’r gwerthoedd hyn yn sylfaenol ac yn cael eu cydnabod ledled y DU.
Dyma’r gwerthoedd: gofal, tosturi, cymhwysedd, cyfathrebu, dewrder ac ymrwymiad.
Gweithgaredd 5 Archwilio eich gwerthoedd eich hun
Gwyliwch Fideo 2 ac ystyriwch eich gwerthoedd eich hun drwy ateb y cwestiynau sy’n dilyn. Nid oes atebion cywir ac anghywir gan mai eich gwerthoedd chi fel nyrs yw’r rhain.
Transcript: Fideo 2:
Pam ydych chi’n meddwl ei bod yn bwysig trin pobl â pharch ac urddas? Beth mae hyn yn ei olygu i chi?
Pam ydych chi’n meddwl bod pobl yn haeddu derbyn gofal gan y rheini sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth briodol?
Meddyliwch am adeg pan wnaethoch chi gyfathrebu’n dda, naill ai mewn lleoliad gwaith neu gartref. Sut oedd cyfathrebu effeithiol wedi helpu yn y sefyllfa honno?
Meddyliwch am adeg pan fu’n rhaid i chi fod yn ddewr, pan roedd yn rhaid i chi sefyll i fyny dros eich hun neu rywun arall. Oedd hyn yn anodd? Sut oeddech chi’n teimlo? Yn eich barn chi, beth wnaethoch chi ei gyflawni?
Meddyliwch am adeg yn eich bywyd (personol neu fywyd gwaith) pan rydych chi wedi ymrwymo i rywbeth ac wedi cael canlyniad cadarnhaol. Sut roedd hynny’n teimlo?
Trafodaeth
Bydd eich atebion yn adlewyrchu eich gwerthoedd. Pan fydd prifysgolion yn dewis myfyrwyr ar gyfer cyrsiau nyrsio, byddant yn aml yn gofyn cwestiynau am eich gwerthoedd er mwyn dod o hyd i’r bobl hynny y mae eu gwerthoedd yn cyd-fynd â gwerthoedd nyrsio.
Ymarfer nyrsio yng Nghymru a’r ‘Cynnig Rhagweithiol’
Mae iaith wrth galon asesiad clinigol effeithiol a thriniaeth ddiogel, yn arbennig ar gyfer rhai grwpiau o gleifion. Mae’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn rhoi’r cyfrifoldeb ar ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach na rhoi’r cyfrifoldeb ar y claf neu’r defnyddiwr gwasanaethau i orfod gofyn amdanynt.
Mae’r Gymraeg yn rhan o fywyd ac ymarfer bob dydd yng Nghymru. Mae gwneud ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn cydnabod bod cyfathrebu effeithiol yn allweddol i ddiwallu anghenion cleifion Cymraeg eu hiaith, yn ogystal â sicrhau diogelwch cleifion drwy gyfathrebu cywir a chynnal parch ac urddas tuag at gleifion a chleientiaid. Gall pawb gyfrannu, p’un a ydych chi’n dysgu Cymraeg neu’ch bod yn rhugl.
Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Pum Mlynedd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] sydd â’r nod o wella hyn. Gallai eich ymwybyddiaeth, eich gwybodaeth, a’ch sgiliau mewn sensitifrwydd iaith ar gyfer gofal cleifion gyfrannu at eich cyrhaeddiad cymhwysedd fel myfyriwr nyrsio a gall hefyd gyfrannu at eich cyflogadwyedd yng Nghymru yn y dyfodol.