8.1 Nyrsio iechyd meddwl
Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau i gefnogi pobl sy’n wynebu problemau cyffredin fel iselder neu orbryder, yn ogystal â chyflyrau fel anhwylderau bwyta, sgitsoffrenia a dementia.
Mae nyrsys iechyd meddwl hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi lles meddyliol a hybu iechyd meddwl cadarnhaol. Fel nyrs iechyd meddwl, efallai y byddwch yn gweithio gydag oedolion neu blant a phobl ifanc, mewn ysbytai, clinigau, canolfannau asesu a thriniaeth, lleoliadau addysg, lleoliadau gofal cymdeithasol, neu yn y cartref. Weithiau mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu gwahaniaethu a stigma ac, fel nyrs iechyd meddwl, rhan allweddol o’ch rôl fyddai eirioli dros y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw.
Gwyliwch Fideo 7 am nyrsio iechyd meddwl, a gynhyrchwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol. Yn y fideo, mae Kiran Jnagal yn siarad am ei gyrfa ym maes nyrsio iechyd meddwl.
