8.2 Nyrsio plant
Mae nyrsys plant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn ysbytai, yn y gymuned, mewn ysgolion ac mewn clinigau, a gyda phlant a theuluoedd yn eu cartrefi ac fel rhan o ofal seibiant. Maen nhw’n gofalu am blant o’u genedigaeth hyd at y glasoed. Efallai y byddwch yn gweithio gyda phlant iach i gefnogi a hybu iechyd, fel mynd i’r afael â gordewdra ymysg plant, neu gyda phlant ag anghenion cymhleth iawn a/neu anhwylderau sy’n cyfyngu ar eu bywyd. Bydd nyrsys plant yn gweithio gyda’r teulu cyfan i gefnogi iechyd a lles y plentyn.
Gwyliwch y fideo hwn am nyrsio plant, sy’n dangos nyrsys yn rhannu eu profiadau a’u gwerthoedd yn y maes nyrsio hwn.
Transcript: Fideo 8:
[TESTUN AR Y SGRIN]:
NYRS 1: Dwi yno ar ddechrau bywyd... dwi’n freintiedig.
NYRS 2: Dwi’n trafod gyda phlant... dwi’n greadigol.
NYRS 3: Mae fy ngwaith gyda’r heddlu a gofal cymdeithasol yn diogelu plant... dwi’n eiriolwr.
NYRS 4: Dwi yno i wneud diagnosis, i gynllunio ac i drin... dwi’n annibynnol.
NYRS 5: Dwi’n barod am unrhyw beth... dwi’n arloeswr.
NYRS 6: Fi sy’n arwain y tîm... dwi’n ddyfeisgar.
NYRS 7: Dwi’n gweithio gyda theuluoedd i gadw plant gartref... dwi’n grymuso.
NYRS 8: Dwi’n helpu i wneud yr ysbyty deimlo fel cartref... dwi’n ymroddedig.
NYRS 9: Dwi yno pan fydd angen cymorth ar bobl ifanc... dwi’n gwrando.
NYRS 10: Dwi’n frwd dros ddysgu’r genhedlaeth nesaf... dwi’n addysgwr.
NYRS 11: Mae pedwar pen yn well nag un...dwi’n aelod da o dîm.
NYRS 12: Dwi’n gofalu am blant ac yn rhoi cysur iddyn nhw... dwi’n dosturiol.
Dwi’n freintiedig. Dwi’n greadigol. Dwi’n grymuso. Dwi’n ddyfeisgar. Dwi’n ymroddedig. Dwi’n dosturiol. Dwi’n nyrs plant.
Cafodd y ffilm hon ei chynhyrchu gan Fforymau Plant a Phobl Ifanc y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Gyda diolch i’r staff a’r plant yn Ysbyty Plant Evelina yn Llundain. Diolch hefyd i aelodau o grŵp Facebook Fforwm Plant a Phobl Ifanc y Coleg Nyrsio Brenhinol am syniadau ac ysbrydoliaeth.