8.4 Nyrsio oedolion
Nyrsio oedolion, a oedd arfer cael ei alw’n nyrsio cyffredinol, yw’r maes nyrsio sy’n cael y sylw pennaf yn y cyfryngau. P’un ai eich bod yn gwylio drama ysbyty neu raglen deledu sy’n dangos nyrsys yn y gymuned, mae nyrsys oedolion yn gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau. Mae ysbytai, clinigau, y gymuned, carchardai, llongau mordeithio a busnesau mawr i gyd yn fannau lle mae nyrsys yn gofalu am bobl sydd ag amrywiaeth o anghenion iechyd. Gall yr anghenion hyn amrywio o fân anhwylderau i gyflyrau cronig a gydol oes, yn ogystal â gofal lliniarol pan fydd rhywun yn marw. Yn debyg i bob maes nyrsio, mae nyrsys oedolion hefyd yn canolbwyntio ar gynnal iechyd a lles, a hybu iechyd a ffyrdd iach o fyw.
Gwyliwch Fideo 10, sy’n dangos nyrs gofrestredig sydd newydd gymhwyso yn gweithio gyda cheiswyr lloches.

Transcript: Fideo 10:
[CERDDORIAETH YN CHWARAE]
[CHWYRNU]