Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Iechyd meddwl: Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich ffrindiau

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Beth allwch chi ei wneud os ydi ffrind i chi yn dioddef? Mae gan ein goroeswr rai awgrymiadau. Ar gyfer pobl ifanc y bwriadwyd y cyngor hwn yn wreiddiol, ond mae’n berthnasol i bobl o bob oed.

A friendly hug

  • Gwrando - Y peth gorau mae unrhyw un yn gallu ei wneud dros rywun sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl ydi gwrando. Efallai na fyddwch chi’n deall y profiad mae eich ffrind yn mynd drwyddo neu beth mae eich ffrind yn ei deimlo, ond mae gwybod bod rhywun yn ceisio deall yn gwneud byd o wahaniaeth.
  • Siarad - Os nad ydych chi erioed wedi cael profiad o broblemau o'r fath eich hun, byddwch mor gefnogol a chydymdeimladol ag y gallwch chi. Mae pob achos iechyd meddwl yn wahanol a does dim ‘un ateb i bawb’ neu un rhaglen unigol i leddfu'r broblem. Mae cyswllt cymdeithasol yn elfen allweddol o ran gwella a symud ymlaen o broblemau iechyd meddwl.  Ceisiwch berswadio eich ffrind i fynd allan o'r tŷ, dim ond er mwyn mynd am dro bach yn y parc hyd yn oed. Mae’n hawdd iawn i rywun sydd â phroblemau iechyd meddwl gau ei hun yn y tŷ ac osgoi bywyd normal.
  • Cefnogi - Hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu gweld eich ffrind bob dydd, mae galwad ffôn neu neges destun hyd yn oed yn rhoi sicrwydd i'ch ffrind bod rhywun yn meddwl ac yn malio amdanynt. Mae problemau iechyd meddwl yn gwneud i rywun deimlo’n ynysig iawn a phan mae rhywun yn teimlo ei fod yn hollol ar ei ben ei hun, mae unrhyw gyswllt â rhwydwaith cefnogi yn hollbwysig.
  • Ymchwil - Ceisiwch ddysgu gymaint ag y gallwch chi am y salwch er mwyn ichi ei ddeall. Mae angen i deulu a ffrindiau sy’n byw gyda rhywun sy’n dioddef cael peth dealltwriaeth o'r broblem - ac, oherwydd bod unrhyw gyflwr fel hyn yn gallu effeithio ar fywydau’r bobl sydd agosaf at y claf, mae angen cefnogaeth arnyn nhw hefyd. Mae llawer o lyfrau a gwefannau ar gael i chi edrych arnyn nhw.
  • Arwyddion perygl - Os ydych chi’n meddwl bod eich ffrind yn mynd yn waeth, yn meddwl am ladd ei hun, yn mynd yn fwy ynysol ac enciliol, byddwch yn ymwybodol. Hefyd, cadwch lygad ar ei arferion bwyta ac yfed - dydi alcohol a meddyginiaeth ddim yn gyfuniad da.
  • Amynedd - Os ydi eich ffrind yn cymryd meddyginiaeth gref, byddwch yn ymwybodol y gall ddioddef sgil-effeithiau fel chwysu, hunllefau, cryndod yn y dwylo, cysgadrwydd, colli/ennill pwysau, blinder, cur yn y pen, cyffni yn y cyhyrau, yn drwsgl, dryswch - a dim ond megis dechrau ydi hynny! Os ydyn nhw’n dioddef, byddwch yn gefnogol!

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.


 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?