Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Iechyd meddwl: Awgrymiadau gan oroeswr

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Cyngor i bawb gan rywun sydd wedi goroesi iechyd meddwl.

Three girls looking at clothes

Rydym yn gofalu am ein hiechyd corfforol. Mae hefyd angen i ni ofalu am ein hiechyd meddwl.

Pan oeddwn i yn f’arddegau a f’ugeiniau cynnar, roedd gen i broblem ag iselder a bu’n rhaid imi gael cymorth. D’oes ddim angen imi gael unrhyw feddyginiaeth erbyn hyn ond mae angen imi wneud yn siŵr nad ydw i’n gadael i bethau effeithio arna’i. Mae’n rhaid imi beidio â phoeni a hel meddyliau negyddol. Dyma rai pethau sy’n fy helpu:

  • Dechrau’r diwrnod drwy feddwl am yr holl bethau cadarnhaol a allai ddigwydd.
  • Mynd allan o’r tŷ am o leiaf 15 munud y dydd.
  • Trefnu amser yn ystod y dydd i wneud pethau rydych chi’n eu mwynhau:  darllen, gwylio un o'ch hoff raglenni teledu.
  • Cadw mewn cysylltiad â ffrindiau:  holi sut maen nhw’n teimlo, ydyn nhw’n cael profiadau tebyg i chi? Yn aml, mae rhannu teimladau’n tynnu pobl yn nes at ei gilydd.
  • Peidiwch â bod ofn cymryd diwrnod i ffwrdd os ydych chi’n teimlo bod angen i chi ofalu amdanoch chi eich hun.
  • Gosod targedau bach hawdd eu cyrraedd i'ch helpu chi i deimlo bod gennych chi reolaeth dros bethau/eich bod chi wedi cyflawni rhywbeth. 
  • Ystyriwch beth rydych chi wedi’i wneud yn dda heddiw a’i gydnabod (gallai hyn fod yn gysylltiedig â'ch targed).
  • Rhoi unrhyw feddyliau negyddol o'r neilltu: mae camgymeriadau’n digwydd, a dyna ni, dysgwch ohonyn nhw. 
  • Cofiwch - dim ond eich ymddygiad eich hun rydych chi’n gallu ei newid, nid ymddygiad pobl eraill.  Os ydi pobl yn cymryd pethau o chwith, eu problem nhw ydi honno. 
  • Cofiwch beth oedd eich bwriad; yna, gallwch bob amser egluro eich teimladau a'ch meddyliau i chi eich hun ac, os oes angen, i bobl eraill.
  • Byddwch yn garedig wrthoch chi eich hun.
  • Cysylltwch â rhywun os oes angen help arnoch chi e.e. Y Samariaid - mae pobl yn aml yn teimlo nad ydi'r broblem sydd ganddyn nhw’n ddigon “mawr” i boeni pobl eraill amdani.  Ond, os ydi rhywbeth yn eich poeni chi, mae’n bwysig.
  • Yn fy marn i, cydbwysedd mewn bywyd ydi hanfod iechyd meddwl; mae’n swnio’n hawdd ond dydi hi ddim bob amser mor hawdd ei gael. 

 

Mae’r adnodd hwn yn rhan o ‘Gasgliad Llesiant ac Iechyd Meddwl’ wedi ei greu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Gallwch ddysgu mwy a dod o hyd i gyrsiau, erthyglau a gweithgareddau eraill ar dudalen hafan y casgliad.



 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?