Transcript
Mae’n bwysig bod ni’n datblygu meddygon ifanc sydd yn hyderus yn siarad Cymraeg yng Nghymru. Rydyn ni wedi bod yn hyffordi siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i fod yn feddygon dros flynyddoedd ond beth oedden ni’n ffeindio oedd bod pobl ifanc oedd yn dod i brifysgol yn hyderus yn ei Gymraeg yn gadael y brisfysgol ddim yn hyderus o gwbl i siarad Cymraeg efo cleifion. Rwan rydyn ni’n gwybod bod na dri grŵp arbennig o gleifion – yr henoed, plant a rhai hefo problemau iechyd meddwl – lle mae’n holl bwysig bod ni’n gallu cynnig gofal trwy gyfrwng y Gymraeg. Plant bach ifanc sydd o gartefi Cymraeg sydd efallai ddim yn deall dim Saesneg nes eu bod yn dair, pedair oed, dydyn nhw ddim ym mynd i gael y triniaeth gorau os nad ydyn nhw yn gallu cael hynny yn ei mamiaith. Yr henoed, rydyn ni’n gwybod bod na achlysuron lle mae pobl wedi cael eu cyfri fel pobl efo problemau seiciatrig ond bod nhw efo problemau meddygol lle bod nhw wedi colli Saesneg achos bod nhw wedi cael strôc neu bod nhw yn y cyflwr dementia. Felly, mae’n bwysig bod ni yn gwarchod y bobl hynny, bod nhw’n cael y gofal yn yr iaith eu dewis nhw. Ond hyd yn oed pobl sydd yn hollol gall ac yn defnyddio Saesneg o ddydd i ddydd mewn bywyd gweithiol neu yn ei cartref gyda’i partner, pan mae’n nhw’n teimlo dan bwysau neu’n sal yn aml mae’n nhw’n troi i’w mamiaith, sef ei iaith gyntaf a nid o ddewis mae hynny. Ac efo strategaeth y llywodraeth dylen ni fod yn rhoi y cynnig o wasanaeth i’r claf yna yn iaith ei dewis nhw a rhoi’r cynnig yna yn rhagweithiol. Mae wythdeg y cant o diagnosis claf yn cael ei wneud trwy cymryd yr hanes ac mae’r hanes yma yn cael ei wneud trwy cyfathrebiad a chysylltiad da rhwng y claf a’r meddyg ac os nad ydyn nhw’n siarad yr un iaith mae’n amhosibl cymryd yr hanes mor gywir ag y gellid. Mae na ddigon o dystiolaeth allan na lle ma y claf sy’n cael rhoi ei tystiolaeth i feddyg yn ei iaith gyntaf nhw yn cael triniaeth a diagnosis gwell – a mae’n holl bwysig bod ni’n cynhyrchu’r meddygon yma yng Nghymru. Hefyd, mae’n bwysig o ran y myfyrwyr, bod nhw’n cael dilyniant o’u addysg gyfrwng Gymraeg a bod nhw’n cael gwneud addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad oes na le i fynd efo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yna mae statws a phwysigrwydd yr iaith yn yr ysgolion yn gwanhau, felly wrth rhoi pwysigrwydd a statws i’r Gymraeg yn y prifysgolion, mae hynny’n cynyddu y rheswm o fod yn astudio’r pynciau hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgolion. Ac efallai, gobeithio bydd yn rhoi yr hyder i’r pobl ifanc yma i siarad Cymraeg yn gymdeithasol.
Dwy flynedd rwy wedi bod yn dysgu meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae di bod yn brofiad hynod o werthfawr i fi. Dwi di mwynhau pob munud bron iawn. Rydyn ni yn rhoi addysg grwpiau bach, rydym wedi bod yn gwneud adnoddau fideo, rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu llyfrynnau gwaith dwyieithog a mae hyn i’r myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ond rydyn ni hefyd wedi bod yn rhoi rhywfaint o ddarpariaeth i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg. Achos, wrth gwrs, dydy pob myfyriwr sydd yn dod i Gymru i astudio meddygaeth ddim yn siarad Cymraeg a dydyn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw adael y coleg yn gallu siarad Cymraeg i safon gradd yn y Gymraeg, ond rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn barchus o’r Gymraeg, yn gallu wneud cyfarchiad a dangos i gleifion bod nhw yn deall bod na ail iaith yn bodoli. Felly, rydyn ni wedi rhoi darlith trwy gyfrwng y Gymraeg i bawb y flwyddyn gyntaf gyda chyfieithu ar y pryd a nid yn unig fydd hynny’n rhoi profiad o’r Gymraeg iddyn nhw ac o Gymraeg fyw ond hefyd profiad o fod mewn sefyllfa amlieithog. Os fyswn i’n gofyn i fyfyrwyr ni pwy sydd o gartref dwyiethog ma nifer fawr ohonynt o gartref dwyiethog , nid yn angenrheidiol o gartref Cymraeg neu Saesneg dwyieithog ond o gartrefi amlieithog Eidaleg, Gujarat, Romanian ac ati. Felly, mae’n bwysig dangos i bobl bod ni’n deall bod na ieithoedd eraill yn y byd yn bodoli yng Nghaerdydd ond bod na ddwy iaith swyddogol yng Nghymru a pan mae’n nhw’n mynd i fynd allan trwy Cymru bod nhw’n mynd i ddod ar draws cleifion a sefyllfaoedd clinigol lle Cymraeg fydd yr iaith gyntaf.