Transcript

Cwestiwn anodd ydy pam fod fi di dewis astudio meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu dewis astudio meddygaeth yn y lle cyntaf. Y rheswm o’n i eisiau gwneud yn Gymraeg odd achos o fod ar brofiad gwaith a gweld meddygon Cymraeg, er enghraifft y rhai sydd gen ni yn yn y gogledd yng Nghymru, yn gallu delio gyda cleifion Cymraeg mor effeithiol ac o siarad efo rhai cleifion oedd efo doctoriaid Saesneg eu hunain yn son am eu profiadau nhw o beidio gallu cyfleu yr hyn sydd yn bod arnyn nhw a chyfleu hanesion yn gyflawn wrth y doctoriaid gan eu bod yn teimlo’n anghyffyrddus yn siarad Saesneg a gwybod hefyd bod cynlleiad o feddygon Cymraeg yng Nghymru a hefyd yn gwybod bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi y cynnig ma o astudio meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Odd hyn i gyd yn ffactorau wnath wneud i fi fod eisiau dod i Gaerdydd yn benodol i astudio meddygaeth achos o’n i’n gwybod os byswn i’n cael y profiad yma o ddysgu mewn ffordd broffesiynol trwy gyfrwng fy mamiaith a gorfod mynd i’r ysgol a dysgu bob dim trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd yn gam eitha naturiol i fi wneud mewn ffordd i gael cario ymlaen ag addysg uwch trwy gyfrwng fy mamiaith achos yn amlwg rwy’n gweld yn lot, lot haws. Dwi’n teimlo bod hi’n bechod bod rhai cleifion yn teimlo eu bod nhw methu cael gofal mor dda gan ddoctoriaid â chleifion Saesneg efallai a dwi’n teimlo’n eitha frwdfrydig pan wnai adael y brifysgol dwi eisiau gallu trin y cleifion yma i’r graddau mae nhw eisiau cael eu trin a gallu rhoi gofal well iddyn nhw gan mod i’n gallu siarad yr un mamiaith â nhw.
Hyd a hyn, dwi ar yr ail flwyddyn bellach, a digwydd bod y flwyddyn diwethaf wnaeth y Coleg Cymraeg wir ddechrau sefydlu eu hyn yng Nghaerdydd efo’r cwrs meddygaeth ac o’n i’n ffodus iawn i fod wedi cael y cyfle i wneud hynny. Yn anffodus, doedd na ddim lot o fyfyrwyr Cymraeg yn fy mlwyddyn i felly ar y pryd roedd yn anodd creu grwpiau gwaith astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl ond erbyn hyn, y flwyddyn gyntaf flwyddyn yma, mae nhw yn ffodus iawn o gael y cyfle i wneud hynny .Felly i fi, o gael tiwtor Gymraeg yn fy ngrwpiau i, er fod y gwaith yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg, o’n i wastad yn cael cyfle trafod y pethau nad o’n i’n deall trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn naturiol roedd hynny’n rhoi lot fwy o hyder i fi fy mod i yn deall y gwaith ac yn gallu trafod gyda rhywun achos bod e’n bwysig bod meddygon Cymraeg yn graddio o’r brifysgol yn teimlo’n hyderus bod nhw’n gallu nid yn unig siarad mewn ffordd o ddydd i ddydd efo pobl ond bod nhw’n gallu siarad mewn ffordd broffesiynol hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg a teimlo eu bod nhw’n gallu trin cleifion yr un mor hyderus yn y Gymraeg ag yn y Saesneg. Efo’r cwrs yma, pan rydyn ni’n trin cleifion, neu pan rydyn ni’n ymarfer yn y flwyddyn cyntaf a’r ail, rydyn ni’n dueddol o ddilyn sgript felly mae’n braf gwybod bod ni’n gallu dysgu’r sgript na hefyd mewn Cymraeg felly gallen ni rhoi ‘consultation’ llawer fwy rhydd a sy’n llifo lot gwell i gleifion mewn ffordd. Dwi hefyd yn cael ysgrifennu darnau ysgrifenedig adlewyrchol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi’n gweld hynny yn andros o werthfawr achos nid yn aml ar y cwrs meddygaeth gewch chi’r cyfle i adlewyrchu yn y lle cyntaf ond o gael gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg dwi’n cael synnwyr lot gwell o beth dwi di wneud ac mae’n teimlo’n llawer fwy personal a mae’n teimlo trwy cael ffydd i wneud y cwrs yma rwy wir yn mwynhau.
Hyd yn hyn, dwi di cael papurau Cymraeg ochr yn ochr â’r arholiad Saesneg ac i fi, mae hynny’n andros o werthfawr achos mewn meddygaeth mae’n dueddol o fod yn iaith Saesneg eitha cymleth rwy’n ffeindio ar adegau felly mae gwybod bod gen i bapur Cymraeg ochr yn ochr efo papur Saesneg i wirio beth yn union mae’r cwestiwn yn ei olygu yn help andros o fawr. Er mod i’n ateb ar bapur Saesneg fel arfer, gan dyna yw rhanfwyaf o’r dysgu yma, mae jyst yn braf cael gwybod bod yr opsiwn Gymraeg yna fel cefnogaeth i mi os dwi eisiau gwirio rhywbeth rhywbryd
Er mod i llynedd heb gael gwneud cyflwyniad llafar trwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth byswn i yn wironeddol wedi eisiau gwneud, dwi’n gwybod fod y Coleg Cymraeg yn sefydlu eu hun fwy a fwy pob blwyddyn a dwi’n gwybod ymhen ychydig o flynyddoedd, efallai misoedd, y bydd myfyrwyr Cymraeg y blynyddoedd cyntaf a’r ail yn cael y cyfle i gael eu marcio trwy gyfrwng y Gymraeg a siarad ar lafar. Achos, rwy’n gwybod i fi, mi byswn i’n gael gradd lot uwch o wneud rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg gan mod i’n llawer fwy hyderus ynddo fo ac yn llawer fwy cywir ynddo nag yn y Saesneg.