Transcript
I fod yn llwyddiannus mewn ymgais i ysgol feddygol, y ffordd draddodiadol wrth gwrs ydy wneud y gais yn syth ar ôl TGAU pan mae’r myfyriwr yn y chweched dosbarth, ond mae’n bwysig cofio nad ydy ymgais adeg hynny yn aflwyddiannus yn golygu nad ydy’n bosib i fynd mewn i feddygaeth. Mi fedrith gwneud ymgais i wneud meddygaeth ar ôl cael lefel A a hefyd ar ôl cael gradd, a hefyd mae na ddau wahanol fath o gwrs meddygaeth. Mae’r un traddodiadol sydd yn cymryd mewn i ystyriaeth y pynciau gwyddonol, ond mae na gwrs arall sydd o flwyddyn sail mewn gwyddoniaeth i’r rhai sydd wedi gwneud pynciau nad ydyn nhw yn wyddonol. Mae’n bwysig cofio bod y cwrs yna nid i bobl sydd wedi methu yn eu arholiadau gwyddonol ond i rhai sydd yn digwydd bod wedi dewis pynciau sydd ddim yn addas i feddygaeth yn gynnar yn eu gyrfa.
Rydyn ni’n edrych ar dri wahanol beth: yr ochr academiadd, yr ochr sydd ddim yn academaidd, a hefyd y cyfweliad. Yr ochr academaidd ydy’r sgoriau mewn TGAU, Lefel A a gradd, wrth gwrs. Ond dydyn ni ddim ond yn edrych am fyfyriwr sy’n academaidd; rydyn ni’n chwilio am rywun sydd yn berson crwn, sydd efo balans da rhwng gwaith a bywyd. Rydyn ni eisiau rhywun sydd wedi cael profiad gwaith addas, a’r un traddodiadol wrth gwrs ydy profiad gwaith mewn ysbyty, er enghraifft, un sydd wedi cael ei trefnu gan yr awdurdod neu’r bwrdd iechyd lleol. Ond mae rhaid cofio bod na rhai pobl sydd ddim yn byw yn agos at ysbytai, fel ym Mhowys er enghraifft, felly rydyn ni yn derbyn profiad gwaith mewn llefydd eraill, er enghraifft, cartref nyrsio, meithrinfa, meddygfa lleol, neu hyd yn oed, rydyn ni wedi cael pobl sydd wedi bod yn gweithio ar y ddesg gwasanaeth cwsmeriaid yn B&Q, er enghraifft. Rhywun sy’n dangos ei bod arfer delio gyda aelodau’r cyhoedd ac yn gallu delio efo sefyllfaoedd eitha anodd weithiau.
Felly, rydyn ni’n chwilio am yr ochr yna, ond hefyd rydyn ni’n chwilio am rywyun sy’n gallu gweithio efo ystad eang o oedran, efallai gweithio gyda phlant bach, dysgu iddyn nhw sut i chwarae pêl rhwyd, neu yn rhoi bwyd allan i hen bobl mewn cartref. Rydyn ni’n edrych am rywun sy’n nabod ei cymuned, sy’n gwneud gwaith gwirfoddol, neu yn gwneud gwaith efo’r Urdd neu’n aelod o’r Urdd. Rydyn ni’n edrych am bobl sy’n gallu siarad yn gyhoeddus, sy’n cystadlu mewn cystadleuthau siarad cyhoeddus neu ar lwyfan, yn yr Urdd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, neu Ffermwyr Ieuanc. Mae pobl sydd wedi gwneud y Duke of Edinburgh Award yn dangos bod nhw wedi gwneud pethau sydd angen arweinyddiaeth dda. A hefyd rydyn ni’n edrych ar bobl sydd efo ystad eang o ddarllen felly edrych ar Student BMJ, er enghraifft.
Pan rydyn ni’n edrych ar ganlyniadau academaidd, rydyn ni’n edrych ar y naw sgôr gorau TGAU sy’n cynnwys gwyddoniaeth, mathemateg a Chymraeg neu Saesneg. Pan rydyn ni’n dod at Lefel A, ac os oes rhywun yn gwneud ymgais efo Lefel A, rydym yn ychwanegu’r sgoriau hynny yna iddyn nhw. Ac os ydyn nhw’n mynd i’r cwrs traddodiadol, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw gwneud dau bwnc gwyddoniaeth, ac os nad yw’r ddau bwnc gwyddoniaeth yna yn cynnwys bioleg neu cemeg, mae eisiau iddyn nhw wedi gwneud bioleg neu cemeg yn AS. Os ydyn nhw’n dod i mewn i ni i wneud ymgais efo gradd mae angen iddyn nhw wedi cael 2.1 neu fwy mewn gradd. Mae gradd A mewn Baccalaureate Cymreig yn gyfateb i A mewn Lefel A hefyd. Ond ar y cyfan, beth rydyn yn edrych amdano yw person ifanc sy’n mynd i wneud doctor da sydd yn gallu cael balans da rhwng bywyd a gwaith a bod gennyn nhw rhywle i gael gwared o’r holl bwysau mae’n nhw’n mynd i gael dros y blynyddoedd, er enghraifft, chwaraeon neu cerddoriaeth.