<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<?sc-transform-do-oumusic-to-unicode?>
<?sc-transform-do-oxy-pi?>
<Item id="X_coleg_medicine" TextType="CompleteItem" SchemaVersion="2.0" PageStartNumber="1" Template="Generic_A4_Unnumbered" Module="default" DiscussionAlias="Discussion" SessionAlias="" SecondColour="None" ThirdColour="None" FourthColour="None" Logo="colour" Rendering="OpenLearn" xml:lang="cy" x_oucontentversion="2019111900"><meta name="aaaf:olink_server" content="http://www.open.edu/openlearn/ocw"/><meta content="https://www.open.edu/openlearn/languages/everyday-english-level-1/content-section-overview?active-tab=content-tab" name="dc:source"/><meta name="vle:osep" content="false"/><meta name="equations" content="mathjax"/><CourseCode>CYM_MST_2</CourseCode><CourseTitle/><ItemID/><ItemTitle>Astudio meddygaeth yn ddwyieithog</ItemTitle><FrontMatter><Imprint><Standard><GeneralInfo><Paragraph/></GeneralInfo><Address><AddressLine/></Address><FirstPublished><Paragraph/></FirstPublished><Copyright><Paragraph/></Copyright><Rights><Paragraph/></Rights><Edited><Paragraph/></Edited><Printed><Paragraph/></Printed><ISBN/><Edition/></Standard></Imprint><Covers><Cover type="ebook" src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/cym_mst2_cover.jpg" template="false"/><Cover template="false" type="A4" src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/ol_generic_PDF_A4_image_w2244x1488.jpg"/></Covers></FrontMatter><Unit><UnitID/><UnitTitle/><ByLine/><Session><Title><language xml:lang="cy">Astudio meddygaeth yn ddwyieithog </language></Title><Paragraph><language xml:lang="cy">A oes gennych ddiddordeb mewn astudio meddygaeth yn y Brifysgol? Os felly, mae’r uned hon i chi. Mae’n cyflwyno nifer o ffactorau yr ydych angen eu hystyried wrth wneud cais i astudio meddygaeth, ac yn amlinellu rhai o’r manteision o astudio meddygaeth yn ddwyieithog yn y Brifysgol. </language></Paragraph><Section><Title><language xml:lang="cy">Sut ydw i’n gwneud cais i astudio meddygaeth? </language></Title><MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/medicine_welsh_1_teacher.mp4" type="video" width="512" x_manifest="medicine_welsh_1_teacher_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="4cd013c8" x_folderhash="4cd013c8" x_contenthash="df87cfaf"><Transcript><Remark>I fod yn llwyddiannus mewn ymgais i ysgol feddygol, y ffordd draddodiadol wrth gwrs ydy wneud y gais yn syth ar ôl TGAU pan mae’r myfyriwr yn y chweched dosbarth, ond mae’n bwysig cofio nad ydy ymgais adeg hynny yn aflwyddiannus yn golygu nad ydy’n bosib i fynd mewn i feddygaeth. Mi fedrith gwneud ymgais i wneud meddygaeth ar ôl cael lefel A a hefyd ar ôl cael gradd, a hefyd mae na ddau wahanol fath o gwrs meddygaeth. Mae’r un traddodiadol sydd yn cymryd mewn i ystyriaeth y pynciau gwyddonol, ond mae na gwrs arall sydd o flwyddyn sail mewn gwyddoniaeth i’r rhai sydd wedi gwneud pynciau nad ydyn nhw yn wyddonol. Mae’n bwysig cofio bod y cwrs yna nid i bobl sydd wedi methu yn eu arholiadau gwyddonol ond i rhai sydd yn digwydd bod wedi dewis pynciau sydd ddim yn addas i feddygaeth yn gynnar yn eu gyrfa. </Remark><Remark>Rydyn ni’n edrych ar dri wahanol beth: yr ochr academiadd, yr ochr sydd ddim yn academaidd, a hefyd y cyfweliad. Yr ochr academaidd ydy’r sgoriau mewn TGAU, Lefel A a gradd, wrth gwrs. Ond dydyn ni ddim ond yn edrych am fyfyriwr sy’n academaidd; rydyn ni’n chwilio am rywun sydd yn berson crwn, sydd efo balans da rhwng gwaith a bywyd. Rydyn ni eisiau rhywun sydd wedi cael profiad gwaith addas, a’r un traddodiadol wrth gwrs ydy profiad gwaith mewn ysbyty, er enghraifft, un sydd wedi cael ei trefnu gan yr awdurdod neu’r bwrdd iechyd lleol. Ond mae rhaid cofio bod na rhai pobl sydd ddim yn byw yn agos at ysbytai, fel ym Mhowys er enghraifft, felly rydyn ni yn derbyn profiad gwaith mewn llefydd eraill, er enghraifft, cartref nyrsio, meithrinfa, meddygfa lleol, neu hyd yn oed, rydyn ni wedi cael pobl sydd wedi bod yn gweithio ar y ddesg gwasanaeth cwsmeriaid yn B&amp;Q, er enghraifft. Rhywun sy’n dangos ei bod arfer delio gyda aelodau’r cyhoedd ac yn gallu delio efo sefyllfaoedd eitha anodd weithiau. </Remark><Remark>Felly, rydyn ni’n chwilio am yr ochr yna, ond hefyd rydyn ni’n chwilio am rywyun sy’n gallu gweithio efo ystad eang o oedran, efallai gweithio gyda phlant bach, dysgu iddyn nhw sut i chwarae pêl rhwyd, neu yn rhoi bwyd allan i hen bobl mewn cartref. Rydyn ni’n edrych am rywun sy’n nabod ei cymuned, sy’n gwneud gwaith gwirfoddol, neu yn gwneud gwaith efo’r Urdd neu’n aelod o’r Urdd. Rydyn ni’n edrych am bobl sy’n gallu siarad yn gyhoeddus, sy’n cystadlu mewn cystadleuthau siarad cyhoeddus neu ar lwyfan, yn yr Urdd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, neu Ffermwyr Ieuanc. Mae pobl sydd wedi gwneud y Duke of Edinburgh Award yn dangos bod nhw wedi gwneud pethau sydd angen arweinyddiaeth dda. A hefyd rydyn ni’n edrych ar bobl sydd efo ystad eang o ddarllen felly edrych ar Student BMJ, er enghraifft. </Remark><Remark>Pan rydyn ni’n edrych ar ganlyniadau academaidd, rydyn ni’n edrych ar y naw sgôr gorau TGAU sy’n cynnwys gwyddoniaeth, mathemateg a Chymraeg neu Saesneg. Pan rydyn ni’n dod at Lefel A, ac os oes rhywun yn gwneud ymgais efo Lefel A, rydym yn ychwanegu’r sgoriau hynny yna iddyn nhw. Ac os ydyn nhw’n mynd i’r cwrs traddodiadol, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw gwneud dau bwnc gwyddoniaeth, ac os nad yw’r ddau bwnc gwyddoniaeth yna yn cynnwys bioleg neu cemeg, mae eisiau iddyn nhw wedi gwneud bioleg neu cemeg yn AS. Os ydyn nhw’n dod i mewn i ni i wneud ymgais efo gradd mae angen iddyn nhw wedi cael 2.1 neu fwy mewn gradd. Mae gradd A mewn Baccalaureate Cymreig yn gyfateb i A mewn Lefel A hefyd. Ond ar y cyfan, beth rydyn yn edrych amdano yw person ifanc sy’n mynd i wneud doctor da sydd yn gallu cael balans da rhwng bywyd a gwaith a bod gennyn nhw rhywle i gael gwared o’r holl bwysau mae’n nhw’n mynd i gael dros y blynyddoedd, er enghraifft, chwaraeon neu cerddoriaeth. </Remark></Transcript><Figure><Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/medicine_welsh_1_teacher.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-MST-2/Welsh/medicine_welsh_1_teacher.jpg" x_folderhash="4cd013c8" x_contenthash="8a2d3d6a" x_imagesrc="medicine_welsh_1_teacher.jpg" x_imagewidth="512" x_imageheight="288"/></Figure></MediaContent><Paragraph><language xml:lang="cy">Mae sawl llwybr i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Caerdydd yw’r unig brifysgol lle gallwch astudio </language>meddygaeth<language xml:lang="cy">yn ddwyieithog ar lefel israddedig. Gallwch hefyd wneud cais i astudio meddygaeth i raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe lle cynigir rhyw faint o’r ddarpariaeth yn ddwyieithog. Gallwch...</language></Paragraph><BulletedList><ListItem>Wneud cais yn syth o Lefel A</ListItem><ListItem>Wneud cais gyda gradd arall</ListItem><ListItem>Ddechrau gyda gradd borthi, e.e. gwyddorau biofeddygol </ListItem></BulletedList><Paragraph><language xml:lang="cy">Peidiwch â rhoi’r gorau iddi os nad yw’r cymwysterau TGAU angenrheidiol gennych - gydag ychydig o ddyfalbarhad gallwch wireddu eich breuddwyd o astudio meddygaeth.</language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gofynion academaidd er mwyn cael mynediad, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar-lein neu cysylltwch ag Ysgol Feddygaeth Caerdydd ar <a href="mailto:medadmissions@cardiff.ac.uk">medadmissions@cardiff.ac.uk</a>  i gael sgwrs am eich sefyllfa. Byddwch yn cael eich derbyn i astudio meddygaeth ar sail tri sgôr:</language></Paragraph><BulletedList><ListItem><language xml:lang="cy">Cymwysterau academaidd</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">Cymwysterau nad ydynt yn rhai academaidd </language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">Cyfweliad</language></ListItem></BulletedList><Paragraph><language xml:lang="cy">Rhoddir ystyriaeth i achosion eithriadol ar sail achos wrth achos.</language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Yn ogystal â’r cymwysterau academaidd angenrheidiol, asesir ymgeiswyr yn ôl nifer o feini prawf eraill nad ydynt yn rhai academaidd. Bydd angen i chi fedru dangos i’r detholwyr fod gennych:</language></Paragraph><BulletedList><ListItem><language xml:lang="cy">Ddealltwriaeth o feddygaeth fel gyrfa, e.e. drwy brofiad gwaith</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">Agwedd ofalgar a synnwyr o ymwybyddiaeth gymdeithasol, e.e. drwy waith gwirfoddol mewn hosbis</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">Synnwyr o gyfrifoldeb, e.e. drwy rôl megis capten tîm neu bennaeth cymdeithas</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">Agwedd gytbwys tuag at fywyd, e.e. bod â diddordebau ar wahân i’ch astudiaethau</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">Tystiolaeth o ddysgu annibynnol, e.e. Ymchwiliad Unigol y Fagloriaeth</language></ListItem><ListItem><language xml:lang="cy">Sgiliau gweithio mewn tîm, e.e. drwy fod yn aelod o glwb</language></ListItem></BulletedList><Paragraph><language xml:lang="cy">Y peth pwysig yw’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu drwy’r profiadau hyn, a’r gallu i fynegi mewn geiriau'r hyn sydd wedi eich ysgogi i ddilyn gyrfa mewn meddygaeth.</language></Paragraph></Section><Section><Title>Ydych chi wedi ystyried astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg? </Title><Paragraph>Wyddoch chi eich bod yn gallu astudio meddygaeth yn ddwyieithog yng Nghaerdydd? Dyma pam y dylech chi efallai ystyried hynny...</Paragraph><MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/medicine_welsh_2_teacher.mp4" type="video" width="512" x_manifest="medicine_welsh_2_teacher_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="4cd013c8" x_folderhash="4cd013c8" x_contenthash="1a22eef7"><Transcript><Remark>Mae’n bwysig bod ni’n datblygu meddygon ifanc sydd yn hyderus yn siarad Cymraeg yng Nghymru. Rydyn ni wedi bod yn hyffordi siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i fod yn feddygon dros flynyddoedd ond beth oedden ni’n ffeindio oedd bod pobl ifanc oedd yn dod i brifysgol yn hyderus yn ei Gymraeg yn gadael y brisfysgol ddim yn hyderus o gwbl i siarad Cymraeg efo cleifion. Rwan rydyn ni’n gwybod bod na dri grŵp arbennig o gleifion – yr henoed, plant a rhai hefo problemau iechyd meddwl – lle mae’n holl bwysig bod ni’n gallu cynnig gofal trwy gyfrwng y Gymraeg. Plant bach ifanc sydd o gartefi Cymraeg sydd efallai ddim yn deall dim Saesneg nes eu bod yn dair, pedair oed, dydyn nhw ddim ym mynd i gael y triniaeth gorau os nad ydyn nhw yn gallu cael hynny yn ei mamiaith. Yr henoed, rydyn ni’n gwybod bod na achlysuron lle mae pobl wedi cael eu cyfri fel pobl efo problemau seiciatrig ond bod nhw efo problemau meddygol lle bod nhw wedi colli Saesneg achos bod nhw wedi cael strôc neu bod nhw yn y cyflwr dementia. Felly, mae’n bwysig bod ni yn gwarchod y bobl hynny, bod nhw’n cael y gofal yn yr iaith eu dewis nhw. Ond hyd yn oed pobl sydd yn hollol gall ac yn defnyddio Saesneg o ddydd i ddydd mewn bywyd gweithiol neu yn ei cartref gyda’i partner, pan mae’n nhw’n teimlo dan bwysau neu’n sal yn aml mae’n nhw’n troi i’w mamiaith, sef ei iaith gyntaf a nid o ddewis mae hynny. Ac efo strategaeth y llywodraeth dylen ni fod yn rhoi y cynnig o wasanaeth i’r claf yna yn iaith ei dewis nhw a rhoi’r cynnig yna yn rhagweithiol. Mae wythdeg y cant o diagnosis claf yn cael ei wneud trwy cymryd yr hanes ac mae’r hanes yma yn cael ei wneud trwy cyfathrebiad a chysylltiad da rhwng y claf a’r meddyg ac os nad ydyn nhw’n siarad yr un iaith mae’n amhosibl cymryd yr hanes mor gywir ag y gellid. Mae na ddigon o dystiolaeth allan na lle ma y claf sy’n cael rhoi ei tystiolaeth i feddyg yn ei iaith gyntaf nhw yn cael triniaeth a diagnosis gwell – a mae’n holl bwysig bod ni’n cynhyrchu’r meddygon yma yng Nghymru. Hefyd, mae’n bwysig o ran y myfyrwyr, bod nhw’n cael dilyniant o’u addysg gyfrwng Gymraeg a bod nhw’n cael gwneud addysg bellach trwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad oes na le i fynd efo addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, yna mae statws a phwysigrwydd yr iaith yn yr ysgolion yn gwanhau, felly wrth rhoi pwysigrwydd a statws i’r Gymraeg yn y prifysgolion, mae hynny’n cynyddu y rheswm o fod yn astudio’r pynciau hynny trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgolion. Ac efallai, gobeithio bydd yn rhoi yr hyder i’r pobl ifanc yma i siarad Cymraeg yn gymdeithasol.</Remark><Remark>Dwy flynedd rwy wedi bod yn dysgu meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae di bod yn brofiad hynod o werthfawr i fi. Dwi di mwynhau pob munud bron iawn. Rydyn ni yn rhoi addysg grwpiau bach, rydym wedi bod yn gwneud adnoddau fideo, rydyn ni wedi bod yn cynhyrchu llyfrynnau gwaith dwyieithog a mae hyn i’r myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ond rydyn ni hefyd wedi bod yn rhoi rhywfaint o ddarpariaeth i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg. Achos, wrth gwrs, dydy pob myfyriwr sydd yn dod i Gymru i astudio meddygaeth ddim yn siarad Cymraeg a dydyn ni ddim yn disgwyl iddyn nhw adael y coleg yn gallu siarad Cymraeg i safon gradd yn y Gymraeg, ond rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn barchus o’r Gymraeg, yn gallu wneud cyfarchiad a dangos i gleifion bod nhw yn deall bod na ail iaith yn bodoli. Felly, rydyn ni wedi rhoi darlith trwy gyfrwng y Gymraeg i bawb y flwyddyn gyntaf gyda chyfieithu ar y pryd a nid yn unig fydd hynny’n rhoi profiad o’r Gymraeg iddyn nhw ac o Gymraeg fyw ond hefyd profiad o fod mewn sefyllfa amlieithog. Os fyswn i’n gofyn i fyfyrwyr ni pwy sydd o gartref dwyiethog ma nifer fawr ohonynt o gartref dwyiethog , nid yn angenrheidiol o gartref Cymraeg neu Saesneg dwyieithog ond o gartrefi amlieithog Eidaleg, Gujarat, Romanian ac ati. Felly, mae’n bwysig dangos i bobl bod ni’n deall bod na ieithoedd eraill yn y byd yn bodoli yng Nghaerdydd ond bod na ddwy iaith swyddogol yng Nghymru a pan mae’n nhw’n mynd i fynd allan trwy Cymru bod nhw’n mynd i ddod ar draws cleifion a sefyllfaoedd clinigol lle Cymraeg fydd yr iaith gyntaf. </Remark></Transcript><Figure><Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/medicine_welsh_2_teacher.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-MST-2/Welsh/medicine_welsh_2_teacher.jpg" x_folderhash="4cd013c8" x_contenthash="8a2d3d6a" x_imagesrc="medicine_welsh_2_teacher.jpg" x_imagewidth="512" x_imageheight="288"/></Figure></MediaContent><Paragraph>Rydym angen mwy o ddoctoriaid sy’n gallu siarad Cymraeg a Saesneg gyda chleifion. </Paragraph><Paragraph>Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar anghenion pobl a’u canlyniadau. Mae’r fframwaith strategol ‘Mwy na geiriau’ yn cydnabod mai dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y gall rhai pobl gyfathrebu a chyfranogi yn eu gofal fel partneriaid cyfartal. Felly mae gan GIG Cymru gyfrifoldeb i fodloni anghenion ieithyddol pobl a drwy wneud hyn yn unig y gallent ddarparu gwasanaeth sydd yn ddiogel ac yn effeithiol. </Paragraph><Paragraph>Yn ychwanegol, mae papur ymgynghori Llywodraeth Cymru ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’ yn amlinellu uchelgais i greu Cymru sy'n ymateb mewn ffordd wedi'i chynllunio i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, ac i gynyddu nifer y bobl sy'n dysgu’r iaith ac yn gallu ei defnyddio gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Y nod yw creu amodau lle gall pawb yng Nghymru gael mynediad at yr iaith Gymraeg, ac y gall pob siaradwr, er gwaethaf eu gallu, ddewis defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg. Yn ogystal â derbyn anogaeth a chymorth i ddatblygu eu sgiliau ymhellach os ydynt yn dymuno gwneud hynny, mewn amgylchedd cynhwysol a chadarnhaol.</Paragraph><Paragraph>Mae myfyrwyr sydd yn astudio yn ddwyieithog hefyd yn dweud eu bod yn fwy hyderus yn cyfrannu mewn grwpiau yn Gymraeg ac yn adrodd lefelau uwch o fodlonrwydd yn ôl data’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu annibynnol. </Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Ein nod yw cynhyrchu graddedigion sy’n gallu gweithio’n hyderus yn Gymraeg a Saesneg. Beth am edrych ar y fideo isod i glywed am brofiad myfyriwr o astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.</language></Paragraph><MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/medicine_welsh_1_student.mp4" type="video" width="512" x_manifest="medicine_welsh_1_student_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="4cd013c8" x_folderhash="4cd013c8" x_contenthash="2672c3e8"><Transcript><Remark>Cwestiwn anodd ydy pam fod fi di dewis astudio meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu dewis astudio meddygaeth yn y lle cyntaf. Y rheswm o’n i eisiau gwneud yn Gymraeg odd achos o fod ar brofiad gwaith a gweld meddygon Cymraeg, er enghraifft y rhai sydd gen ni yn yn y gogledd yng Nghymru, yn gallu delio gyda cleifion Cymraeg mor effeithiol ac o siarad efo rhai cleifion oedd efo doctoriaid Saesneg eu hunain yn son am eu profiadau nhw o beidio gallu cyfleu yr hyn sydd yn bod arnyn nhw a chyfleu hanesion yn gyflawn wrth y doctoriaid gan eu bod yn teimlo’n anghyffyrddus yn siarad Saesneg a gwybod hefyd bod cynlleiad o feddygon Cymraeg yng Nghymru a hefyd yn gwybod bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi y cynnig ma o astudio meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Odd hyn i gyd yn ffactorau wnath wneud i fi fod eisiau dod i Gaerdydd yn benodol i astudio meddygaeth achos o’n i’n gwybod os byswn i’n cael y profiad yma o ddysgu mewn ffordd broffesiynol trwy gyfrwng fy mamiaith a gorfod mynd i’r ysgol a dysgu bob dim trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd yn gam eitha naturiol i fi wneud mewn ffordd i gael cario ymlaen ag addysg uwch trwy gyfrwng fy mamiaith achos yn amlwg rwy’n gweld yn lot, lot haws. Dwi’n teimlo bod hi’n bechod bod rhai cleifion yn teimlo eu bod nhw methu cael gofal mor dda gan ddoctoriaid â chleifion Saesneg efallai a dwi’n teimlo’n eitha frwdfrydig pan wnai adael y brifysgol dwi eisiau gallu trin y cleifion yma i’r graddau mae nhw eisiau cael eu trin a gallu rhoi gofal well iddyn nhw gan mod i’n gallu siarad yr un mamiaith â nhw.</Remark><Remark>Hyd a hyn, dwi ar yr ail flwyddyn bellach, a digwydd bod y flwyddyn diwethaf wnaeth y Coleg Cymraeg wir ddechrau sefydlu eu hyn yng Nghaerdydd efo’r cwrs meddygaeth ac o’n i’n ffodus iawn i fod wedi cael y cyfle i wneud hynny. Yn anffodus, doedd na ddim lot o fyfyrwyr Cymraeg yn fy mlwyddyn i felly ar y pryd roedd yn anodd creu grwpiau gwaith astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn gyfan gwbl ond erbyn hyn, y flwyddyn gyntaf flwyddyn yma, mae nhw yn ffodus iawn o gael y cyfle i wneud hynny .Felly i fi, o gael tiwtor Gymraeg yn fy ngrwpiau i, er fod y gwaith yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg, o’n i wastad yn cael cyfle trafod y pethau nad o’n i’n deall trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn naturiol roedd hynny’n rhoi lot fwy o hyder i fi fy mod i yn deall y gwaith ac yn gallu trafod gyda rhywun achos bod e’n bwysig bod meddygon Cymraeg yn graddio o’r brifysgol yn teimlo’n hyderus bod nhw’n gallu nid yn unig siarad mewn ffordd o ddydd i ddydd efo pobl ond bod nhw’n gallu siarad mewn ffordd broffesiynol hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg a teimlo eu bod nhw’n gallu trin cleifion yr un mor hyderus yn y Gymraeg ag yn y Saesneg. Efo’r cwrs yma, pan rydyn ni’n trin cleifion, neu pan rydyn ni’n ymarfer yn y flwyddyn cyntaf a’r ail, rydyn ni’n dueddol o ddilyn sgript felly mae’n braf gwybod bod ni’n gallu dysgu’r sgript na hefyd mewn Cymraeg felly gallen ni rhoi ‘consultation’ llawer fwy rhydd a sy’n llifo lot gwell i gleifion mewn ffordd. Dwi hefyd yn cael ysgrifennu darnau ysgrifenedig adlewyrchol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi’n gweld hynny yn andros o werthfawr achos nid yn aml ar y cwrs meddygaeth gewch chi’r cyfle i adlewyrchu yn y lle cyntaf ond o gael gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg dwi’n cael synnwyr lot gwell o beth dwi di wneud ac mae’n teimlo’n llawer fwy personal a mae’n teimlo trwy cael ffydd i wneud y cwrs yma rwy wir yn mwynhau.</Remark><Remark>Hyd yn hyn, dwi di cael papurau Cymraeg ochr yn ochr â’r arholiad Saesneg ac i fi, mae hynny’n andros o werthfawr achos mewn meddygaeth mae’n dueddol o fod yn iaith Saesneg eitha cymleth rwy’n ffeindio ar adegau felly mae gwybod bod gen i bapur Cymraeg ochr yn ochr efo papur Saesneg i wirio beth yn union mae’r cwestiwn yn ei olygu yn help andros o fawr. Er mod i’n ateb ar bapur Saesneg fel arfer, gan dyna yw rhanfwyaf o’r dysgu yma, mae jyst yn braf cael gwybod bod yr opsiwn Gymraeg yna fel cefnogaeth i mi os dwi eisiau gwirio rhywbeth rhywbryd</Remark><Remark>Er mod i llynedd heb gael gwneud cyflwyniad llafar trwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth byswn i yn wironeddol wedi eisiau gwneud, dwi’n gwybod fod y Coleg Cymraeg yn sefydlu eu hun fwy a fwy pob blwyddyn a dwi’n gwybod ymhen ychydig o flynyddoedd, efallai misoedd, y bydd myfyrwyr Cymraeg y blynyddoedd cyntaf a’r ail yn cael y cyfle i gael eu marcio trwy gyfrwng y Gymraeg a siarad ar lafar. Achos, rwy’n gwybod i fi, mi byswn i’n gael gradd lot uwch o wneud rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg gan mod i’n llawer fwy hyderus ynddo fo ac yn llawer fwy cywir ynddo nag yn y Saesneg. </Remark></Transcript><Figure><Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1621174/mod_oucontent/oucontent/91816/medicine_welsh_1_student.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-MST-2/Welsh/medicine_welsh_1_student.jpg" x_folderhash="4cd013c8" x_contenthash="52e79eb6" x_imagesrc="medicine_welsh_1_student.jpg" x_imagewidth="512" x_imageheight="288"/></Figure></MediaContent></Section></Session><BackMatter><Acknowledgements><Paragraph><language xml:lang="cy">Diolch i Dr Awen Iorwerth, a Manon Thomas am gynorthwyo gyda’r modiwl hwn. </language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Mae’r Brifysgol Agored wedi gweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu unedau dwyieithog, gan gynnwys yr uned hon, ar OpenLearn Cymru: <a href="http://www.colegcymraeg.ac.uk">www.colegcymraeg.ac.uk</a></language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Rhoddir cydnabyddiaeth diolchgar i’r ffynonellau canlynol:</language></Paragraph><Paragraph><language auto="cy"><b>Lluniau</b></language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">Gwneir pob ymdrech i gysylltu â dalwyr hawlfraint. Os fydd unrhyw un ohonynt heb gael eu sylwi ar ddamwain bydd y cyhoeddwyr yn hapus i wneud y trefniadau bydd angen ar y cyfle cyntaf.</language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">llun baner  Colegcymraeg</language></Paragraph><Paragraph><language xml:lang="cy">llun cwrs  Colegcymraeg</language></Paragraph></Acknowledgements></BackMatter></Unit><settings>
    <numbering>
        <Session autonumber="false"/>
        <Section autonumber="false"/>
        <SubSection autonumber="false"/>
        <SubSubSection autonumber="false"/>
        <Activity autonumber="false"/>
        <Exercise autonumber="false"/>
        <Box autonumber="false"/>
        <CaseStudy autonumber="false"/>
        <Quote autonumber="false"/>
        <Extract autonumber="false"/>
        <Dialogue autonumber="false"/>
        <ITQ autonumber="false"/>
        <Reading autonumber="false"/>
        <StudyNote autonumber="false"/>
        <Example autonumber="false"/>
        <Verse autonumber="false"/>
        <SAQ autonumber="false"/>
        <KeyPoints autonumber="false"/>
        <ComputerDisplay autonumber="false"/>
        <ProgramListing autonumber="false"/>
        <Summary autonumber="false"/>
        <Tables autonumber="false"/>
        <Figures autonumber="false"/>
        <MediaContent autonumber="false"/>
        <Chemistry autonumber="false"/>
    </numbering>
    <discussion_alias>Discussion</discussion_alias>
    <session_prefix/>
<version>2019111900</version></settings></Item>
