Sut ydw i’n gwneud cais i astudio meddygaeth?
Transcript
Mae sawl llwybr i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Caerdydd yw’r unig brifysgol lle gallwch astudio meddygaethyn ddwyieithog ar lefel israddedig. Gallwch hefyd wneud cais i astudio meddygaeth i raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe lle cynigir rhyw faint o’r ddarpariaeth yn ddwyieithog. Gallwch...
- Wneud cais yn syth o Lefel A
- Wneud cais gyda gradd arall
- Ddechrau gyda gradd borthi, e.e. gwyddorau biofeddygol
Peidiwch â rhoi’r gorau iddi os nad yw’r cymwysterau TGAU angenrheidiol gennych - gydag ychydig o ddyfalbarhad gallwch wireddu eich breuddwyd o astudio meddygaeth.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gofynion academaidd er mwyn cael mynediad, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar-lein neu cysylltwch ag Ysgol Feddygaeth Caerdydd ar medadmissions@cardiff.ac.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i gael sgwrs am eich sefyllfa. Byddwch yn cael eich derbyn i astudio meddygaeth ar sail tri sgôr:
- Cymwysterau academaidd
- Cymwysterau nad ydynt yn rhai academaidd
- Cyfweliad
Rhoddir ystyriaeth i achosion eithriadol ar sail achos wrth achos.
Yn ogystal â’r cymwysterau academaidd angenrheidiol, asesir ymgeiswyr yn ôl nifer o feini prawf eraill nad ydynt yn rhai academaidd. Bydd angen i chi fedru dangos i’r detholwyr fod gennych:
- Ddealltwriaeth o feddygaeth fel gyrfa, e.e. drwy brofiad gwaith
- Agwedd ofalgar a synnwyr o ymwybyddiaeth gymdeithasol, e.e. drwy waith gwirfoddol mewn hosbis
- Synnwyr o gyfrifoldeb, e.e. drwy rôl megis capten tîm neu bennaeth cymdeithas
- Agwedd gytbwys tuag at fywyd, e.e. bod â diddordebau ar wahân i’ch astudiaethau
- Tystiolaeth o ddysgu annibynnol, e.e. Ymchwiliad Unigol y Fagloriaeth
- Sgiliau gweithio mewn tîm, e.e. drwy fod yn aelod o glwb
Y peth pwysig yw’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu drwy’r profiadau hyn, a’r gallu i fynegi mewn geiriau'r hyn sydd wedi eich ysgogi i ddilyn gyrfa mewn meddygaeth.