Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Astudio meddygaeth yn ddwyieithog
Astudio meddygaeth yn ddwyieithog

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Ydych chi wedi ystyried astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg?

Wyddoch chi eich bod yn gallu astudio meddygaeth yn ddwyieithog yng Nghaerdydd? Dyma pam y dylech chi efallai ystyried hynny...

Download this video clip.Video player: medicine_welsh_2_teacher.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Rydym angen mwy o ddoctoriaid sy’n gallu siarad Cymraeg a Saesneg gyda chleifion.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar anghenion pobl a’u canlyniadau. Mae’r fframwaith strategol ‘Mwy na geiriau’ yn cydnabod mai dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y gall rhai pobl gyfathrebu a chyfranogi yn eu gofal fel partneriaid cyfartal. Felly mae gan GIG Cymru gyfrifoldeb i fodloni anghenion ieithyddol pobl a drwy wneud hyn yn unig y gallent ddarparu gwasanaeth sydd yn ddiogel ac yn effeithiol.

Yn ychwanegol, mae papur ymgynghori Llywodraeth Cymru ‘Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’ yn amlinellu uchelgais i greu Cymru sy'n ymateb mewn ffordd wedi'i chynllunio i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, ac i gynyddu nifer y bobl sy'n dysgu’r iaith ac yn gallu ei defnyddio gyda'u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Y nod yw creu amodau lle gall pawb yng Nghymru gael mynediad at yr iaith Gymraeg, ac y gall pob siaradwr, er gwaethaf eu gallu, ddewis defnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg. Yn ogystal â derbyn anogaeth a chymorth i ddatblygu eu sgiliau ymhellach os ydynt yn dymuno gwneud hynny, mewn amgylchedd cynhwysol a chadarnhaol.

Mae myfyrwyr sydd yn astudio yn ddwyieithog hefyd yn dweud eu bod yn fwy hyderus yn cyfrannu mewn grwpiau yn Gymraeg ac yn adrodd lefelau uwch o fodlonrwydd yn ôl data’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu annibynnol.

Ein nod yw cynhyrchu graddedigion sy’n gallu gweithio’n hyderus yn Gymraeg a Saesneg. Beth am edrych ar y fideo isod i glywed am brofiad myfyriwr o astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Download this video clip.Video player: medicine_welsh_1_student.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).