Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Casgliad llesiant a iechyd meddwl

Diweddarwyd Dydd Llun, 15 Chwefror 2021
Yn y casgliad Iechyd Meddwl a Lles (Cymru), mae hwb o adnoddau dwyieithog, rhad ac am ddim, sydd yn ceisio hybu lles cadarnhaol a chefnogi iechyd meddwl da. 

Yn y casgliad, mae adnoddau ar ystod o destunau lles i fyfyrwyr sydd yn astudio ar lefel Addysg Uwch neu Bellach. Gall staff yn y sector Addysg Uwch neu Bellach hefyd ddefnyddio’r adnoddau i wella’u gwybodaeth o ymddygiad iechyd cadarnhaol, a fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa well i gefnogi myfyrwyr ac yn cefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus. 

Mae’n bwysig cofio bod y casgliad wedi’i ddatblygu gan ddefnyddio llais myfyrwyr. Cyfrannodd myfyrwyr ledled Cymru at y cynnwys drwy roi eu barn ar ddeunyddiau Open Learn a’r pethau arwyddocaol oedd yn eu poeni yn ystod eu hamser yn fyfyrwyr. Gyda’r cyfraniad amhrisiadwy hwn, llwyddwyd i adnabod yr adnoddau mwyaf perthnasol a defnyddiol sydd eu hangen i gefnogi iechyd meddwl a lles myfyrwyr. 

Yn ogystal â chyfraniad hanfodol y myfyrwyr, rhoddwyd y casgliad at ei gilydd gan ddefnyddio sylwadau arbenigol gan wasanaethau myfyrwyr proffesiynol, staff academaidd ac addysgu ar draws sefydliadau partner. Cafwyd sylwadau beirniadol ac awgrymiadau gan arbenigwyr o ran adnoddau allanol a chyfeirio er mwyn i’r casgliad fod yn fwy effeithiol eto.  

Edrychwch ar y bocsys isod i ddechrau chwilota drwy’r casgliad. Mae rhai adnoddau yn rhoi cymorth uniongyrchol ar gyfer ymdopi efo pyliau o banig neu gyfeirio at wasanaethau cymorth. Tra bydd eraill yn rhoi cyngor ar feysydd all effeithio ar eich iechyd meddwl fel ymarfer corff, rheoli amser neu straen sy’n gysylltiedig â thechnoleg.

Mae'r casgliad yma hefyd ar gael yn Saesneg. | This collection is also available in English.

Wales logos

Datblygwyd y casgliad hwn gyda chyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Fe’i cyflawnwyd gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales a Chymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored. Myfyrwyr llawn a rhan amser, ar draws y tri darparwr addysg, fu’n gyfrifol am lywio cynnwys y casgliad. 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?